Gan eich bod yn cyrchu gwasanaethau iechyd meddwl mae gennych hawl i gymorth eiriolaeth annibynnol yn ystod eich derbyniad. Bydd staff nyrsio yn eich cefnogi i wneud yr atgyfeiriadau hyn. Mae'r gweithwyr proffesiynol hyn yn annibynnol ar Uned Gobaith a gallant eich cefnogi mewn unrhyw gyfarfodydd ward a sicrhau bod eich barn a'ch dymuniadau yn cael eu cyfleu.
Os cawsoch eich cadw yn y ddalfa o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, darperir cymorth eiriolaeth gan Advocacy Support Cymru a gellir cysylltu â nhw i'ch cefnogi ymhellach Dilynwch y ddolen hon ar gyfer gwefan ASC.
Mae'r bwrdd iechyd yn gweithredu 'polisi di-fwg' ar ei holl safleoedd i amddiffyn pawb rhag effeithiau niweidiol tybaco a mwg ail-law. Ewch yma am ein gwasanaeth rhoi'r gorau i ysmygu os oes angen cefnogaeth bellach arnoch.
Caniateir defnyddio ffonau symudol a dyfeisiau yn yr uned; fodd bynnag, mae cyfrinachedd yn rhan bwysig o'n gwaith, mae'n rhaid ei gynnal bob amser. Peidiwch â defnyddio'ch camera i dynnu lluniau o bobl eraill tra ar yr uned neu drafod yr uned, staff neu gleifion eraill ar gyfryngau cymdeithasol. Mae gennym fynediad i Wi-Fi trwy The Cloud. Gan ein bod yn wasanaeth rhanbarthol rydym hefyd yn deall y gallech gael eich gwahanu oddi wrth eich anwyliaid, felly mae gennym fynediad at Ipads at ddibenion galw fideo, gofynnwch i aelod o'r tîm am ragor o wybodaeth.
Mae gennych lawer o hawliau o ran eich cofnodion iechyd gan mai eich gwybodaeth bersonol chi ydyw. Er enghraifft mae gennych yr hawl i wybod sut y byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol, yr hawl i weld eich cofnod iechyd, yr hawl i wrthwynebu i ni ddefnyddio'ch gwybodaeth at ddibenion penodol, a'r hawl i ofyn i'ch gwybodaeth gael ei newid neu ei dileu os yw'n ffeithiol anghywir. Os ydych chi am gael mynediad i'ch gwybodaeth glinigol eich hun, cysylltwch â'r adran mynediad at gofnodion iechyd trwy e-bost: accesstorecords@wales.nhs.uk
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.