Neidio i'r prif gynnwy

Codi Llais Heb Ofn

Delwedd o megaphone

Delwedd o Rydym yn deall pa mor ynysig ac agored i niwed y gall deimlo cael rhywbeth yn eich poeni yn y gwaith a pheidio â gwybod ble i droi. Rydym hefyd yn deall y gallai hyd yn oed dod i'r dudalen we hon fod wedi bod yn gam mawr i chi, ond un sy'n hanfodol i chi a'ch lles, eich cydweithwyr ac ar gyfer diogelwch a chanlyniadau ein cleifion.

Mae staff yn gwybod sut i godi pryder yn y gwaith, yn hawdd ac yn briodol, yn flaenoriaeth i ni ym Mae Abertawe a hoffem ddiolch i chi am gymryd y cam cyntaf hwn tuag at wneud dewis i siarad a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i chi'ch hun, eich cydweithwyr, cleifion a defnyddwyr gwasanaeth.

Ewch yma i gael mynediad at becyn cymorth Staff BIP Bae Abertawe yn Codi Llais Heb Ofn sydd ag ystod eang o wybodaeth a chyngor i'ch cynorthwyo i godi eich pryder.

Gallwch hefyd ymweld â gwefan Sharepoint Codi Pryderon/Codi Llais Heb Ofn ar fewnrwyd y staff.

Ein hymrwymiad yw creu amgylchedd diogel a chefnogol lle mae pawb yn teimlo'n gyfforddus i siarad a chodi pryderon a phan fyddant yn gwneud hynny, rydym yn gweithredu .

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.