Isod gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y cymorth a'r gwasanaethau sydd ar gael i chi yn ardal Castell-nedd.
Gall eich cydlynydd ardal leol eich helpu i ddod o hyd i gefnogaeth a chyngor yn eich cymuned.
Gallant eich helpu i ddod i wybod am eich cymuned a'ch cyflwyno i bobl gyfeillgar a chymwynasgar ynddi.
Gallant eich helpu i archwilio ac adeiladu ar eich cryfderau a gallant eich cefnogi i rannu eich sgiliau a'ch doniau ag eraill. Gallant eich helpu i gysylltu â gwasanaethau ffurfiol os mai dyna sydd ei angen arnoch yn eich barn chi.
Mae gwefan Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot yn manylu ar raglen allgymorth ac ymgysylltu ar draws Castell-nedd Port Talbot.
Mae'r rhaglen yn cefnogi cymunedau BAME i herio'r ystod ehangach o fynediad at faterion gofal iechyd a gwella sut y gellir darparu gwasanaethau'n fwy effeithiol.
Mae presgripsiynu cymdeithasol yn cysylltu pobl â chymorth anfeddygol, megis gweithgareddau, grwpiau cymunedol a gwasanaethau i'w helpu i wella eu hiechyd a'u lles.
Gall helpu os ydych dros 18 oed ac yn profi unigedd, profedigaeth, problemau iechyd meddwl lefel isel, salwch cronig neu absenoldeb hirdymor o’r gwaith.
Mae gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot gyfeiriadur o gymorth iechyd meddwl sydd ar gael yn genedlaethol ac yn lleol i Gastell-nedd Port Talbot.
Mae Tidy Minds yn darparu gwybodaeth ac arweiniad ar nifer o bynciau, megis dicter, bwlio, iechyd corfforol, ysgol a phyliau o banig.
Mae gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot restr o gymorth iechyd meddwl a lles sydd ar gael i chi yn ardal Castell-nedd Port Talbot.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.