Mae’r dudalen hon yn dwyn ynghyd ystod gynhwysfawr o wybodaeth, canllawiau hunangymorth a ffyrdd o gael gafael ar gymorth a chefnogaeth.
Ei nod yw helpu pawb yn y gymuned i gael mynediad at wybodaeth ddefnyddiol am iechyd a lles.
Mae’r Hwb Dementia yn ganolfan wybodaeth un stop sydd wedi’i hangori yng nghanol y gymuned ar gyfer popeth sy’n ymwneud â dementia.
Mae canolfannau parhaol yng Nghanolfan Siopa Cwadrant Abertawe rhwng 11yb a 3yp, 7 diwrnod yr wythnos a Chanolfan Siopa Aberafan o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 11yb a 3yp.
Mae Hwb Dementia yn cynnig gwybodaeth am ddementia ac yn cyfeirio at gymorth priodol.
Mae wedi cyflwyno hwb symudol ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, gyda sesiynau'n cael eu cynnal mewn amrywiaeth o leoedd.
Mae cymorth iechyd meddwl 24/7 bellach ar gael dros y ffôn ym Mae Abertawe. Gall pobl sy'n byw yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot sydd angen cymorth brys gyda materion iechyd meddwl bellach ffonio tîm o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol am ddim, ddydd neu nos.
Mae ffonio 111 a dewis opsiwn 2 yn rhoi galwyr mewn cysylltiad uniongyrchol â thîm o 20 o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot.
Mae'r gwasanaeth ar gael i unrhyw un yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot sydd â phryder iechyd meddwl, gan gynnwys perthnasau sydd angen cyngor.
Mae 111 opsiwn 2 yn rhedeg 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, gan gynnig gwasanaeth brysbennu a chymorth neu gyfeirio fel y bo'n briodol.
Bydd galwyr yn cael eu cefnogi gan glinigwyr hyfforddedig sy'n gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol gan gynnwys nyrsys iechyd meddwl, ymarferwyr lles seicolegol a therapyddion galwedigaethol.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth, cyngor a chymorth ar gyfer lles meddwl ar wefan Cyngor Castell-nedd Port Talbot.
Er bod Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot yn rhestru nifer o sefydliadau, yn lleol ac yn genedlaethol.
Mae Tidy Minds yn darparu gwybodaeth ac arweiniad ar nifer o bynciau, megis dicter, bwlio, iechyd corfforol, ysgol a phyliau o banig.
Lansiwyd Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot ym mis Ebrill 2009 i gefnogi'r arwyr di-glod sy'n gofalu am anwyliaid nad ydynt yn gallu gofalu amdanynt eu hunain.
Nid yw pawb sy'n gwneud hyn yn meddwl amdanynt eu hunain fel gofalwr, ond mae cyfrifoldebau gofalu yn gosod gofynion enfawr ar eu bywydau. Ein nod yw helpu gofalwyr di-dâl i gydnabod eu rôl ofalu a darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i ofalwyr 18+ oed yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Cenhadaeth Care & Repair Bae'r Gorllewin yw sicrhau bod yr holl bobl hŷn yn cael eu cefnogi i fyw mewn cartref diogel, cynnes a sicr mor annibynnol â phosibl am gyhyd â phosibl.
Mae’n wasanaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn cael ei arwain gan broblemau, sy’n darparu ystod o wasanaethau cynghori i bobl hŷn yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Mae canser yn gyflwr lle mae celloedd mewn rhan benodol o'r corff yn tyfu ac yn atgenhedlu'n afreolus. Gall y celloedd canseraidd oresgyn a dinistrio meinwe iach o amgylch, gan gynnwys organau.
Mae Gwasanaethau Gwybodaeth a Chymorth Canser (CISS) yn elusen gofrestredig sy’n cynnig cymorth emosiynol a gwybodaeth gywir, gyfredol i gleifion canser a gofalwyr ledled de-orllewin Cymru.
Nod yr elusen yw darparu gwasanaeth cymorth canser hyblyg, gan gynnig cymorth emosiynol a gwybodaeth ffeithiol, tra'n osgoi rhwystrau posibl i drafodaeth agored.
Dilynwch y ddolen hon i wefan CISS lle gallwch ddarllen am yr elusen a pha gymorth sydd ar gael.
Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot
Mae gan wefan NPTCVS amrywiaeth o wybodaeth am gefnogaeth lles sydd ar gael yn ardal Castell-nedd Port Talbot.
Sorted Support
Mewn partneriaeth â Phartneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg, mae Sorted Supported yn darparu trosolwg o'r gwasanaethau a'r cymorth sydd ar gael yn Abertawe ac maent wedi'u categoreiddio'n feysydd cymorth penodol i wneud dod o hyd i wybodaeth berthnasol yn hawdd ac yn hygyrch.
Dilynwch y ddolen hon i wefan Sorted Supported i ddod o hyd i ragor o wybodaeth.
TidyMinds
Mae TidyMinds yn darparu gwybodaeth am gefnogaeth a gwasanaethau i blant a phobl ifanc yn Abertawe.
Dilynwch y ddolen hon i wefan TidyMinds lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth.
Ataloss
Mae Ataloss yn rhestr gynhwysfawr o’r holl wasanaethau profedigaeth sydd ar gael yn y DU ac mae ganddo adrannau cymorth sydd ar gael ar gyfer mathau penodol o brofedigaeth i helpu i ddarparu’r cymorth gorau i bob claf mewn angen.
Dilynwch y ddolen hon i wefan Ataloss lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am brofedigaeth.
Infoengine
Infoengine yw’r cyfeiriadur o holl wasanaethau’r trydydd sector yng Nghymru sy’n gallu darparu gwybodaeth a chymorth i bobl mewn angen.
Dilynwch y ddolen hon i wefan Infoengine lle gallwch gael mwy o wybodaeth.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.