Neidio i'r prif gynnwy

e-Lyfrgell GIG Cymru yn cyhoeddi adnodd Gwybodaeth am Feddyginiaethau newydd

Bydd y ddarpariaeth genedlaethol Gwybodaeth am Feddyginiaethau a’r Offeryn Cyffuriau yn newid ar 31 Awst 2024.   

Ar y dyddiad hwnnw, daw ein contract presennol ar gyfer Micromedex i ben ac ni fydd bellach ar gael drwy e-Lyfrgell GIG Cymru.   

Mae contract newydd wedi’i ddyfarnu trwy dendr cystadleuol i’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a’u datrysiad Medicines Complete. Mae’r contract ar gyfer y gwasanaeth hwnnw yn dechrau ar 1 Medi 2024.   

Yn ystod y cyfnod pontio hwn rhwng adnoddau, byddwn yn:  

  • Diweddaru’r dolenni ar ein gwefan  

  • Darparu gwybodaeth, cyfarwyddiadau a Chwestiynau Cyffredin  

  • Cynnal nifer o weminarau a sesiynau hyfforddi  

Cadwch lygad ar ein calendr e-Lyfrgell GIG Cymru, y cyfryngau cymdeithasol a’ch e-byst am ddyddiadau ac amseroedd y gweminarau a’r sesiynau hyn.  

Hefyd, ewch i dudalen Cronfa Ddata e-Lyfrgell GIG Cymru i ddod o hyd i’r holl adnoddau Gwybodaeth am Feddyginiaethau cyfredol, gan gynnwys Micromedex.  

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at elibrary@wales.nhs.uk