Neidio i'r prif gynnwy

Pam rydyn ni'n gallu prosesu'r wybodaeth?

Rydym yn gyfreithiol yn gallu prosesu eich gwybodaeth bersonol o dan Erthygl 6 o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) gan fod y prosesu’n angenrheidiol er mwyn i ni allu cyflawni ein swyddogaethau swyddogol fel corff y GIG. Bydd adegau pan fyddwn yn dibynnu ar seiliau cyfreithlon eraill megis pan fydd angen y prosesu er mwyn i ni gydymffurfio â’r gyfraith.

Rydym yn gyfreithiol yn gallu prosesu gwybodaeth categori arbennig o dan Erthygl 9 y GDPR gan fod y prosesu yn angenrheidiol at ddibenion rheoli systemau a gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.