Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw eich hawliau mewn perthynas â'ch data personol?

O dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau y mae angen i ni eich gwneud yn ymwybodol ohonynt. Mae'r hawliau sydd ar gael i chi yn dibynnu ar ein rheswm dros brosesu eich gwybodaeth.

  • Eich hawl i gael mynediad

Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol. Mae'r hawl hon bob amser yn berthnasol. Mae rhai eithriadau, sy'n golygu efallai na fyddwch bob amser yn derbyn yr holl wybodaeth rydym yn ei phrosesu.

  • Eich hawl i gywiro’ch data

Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth y credwch ei bod yn anghywir. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth y credwch ei bod yn anghyflawn. Mae'r hawl hon bob amser yn berthnasol.

  • Eich hawl i ddileu’ch data

Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.

  • Eich hawl i gyfyngu ar brosesu

Mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth mewn rhai amgylchiadau.

  • Eich hawl i wrthwynebu i’r prosesu

Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu dim ond lle caiff ei brosesu fel rhan o’n tasgau cyhoeddus, neu os yw er ein budd cyfreithlon.

  • Eich hawl i gludadwyedd data

Mae hyn ond yn berthnasol i wybodaeth yr ydych wedi ei rhoi i ni. Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r wybodaeth a roesoch i ni o un sefydliad i’r llall, neu ei rhoi i chi. Mae’r hawl ond yn berthnasol os ydym yn prosesu gwybodaeth yn seiliedig ar eich caniatâd neu o dan gontract, neu mewn sgyrsiau am ymrwymo i gontract a bod y prosesu’n awtomataidd.

Nid yw'n ofynnol i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau. Mae gennym fis i ymateb i chi.

Mae gennych hefyd yr hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio os ydych yn anfodlon ynghylch sut y caiff eich data ei brosesu.

Yn y DU, yr awdurdod goruchwylio yw Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a cheir ei fanylion cyswllt isod:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Mae gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sgwrs fyw ar-lein, sydd ar gael ar eu gwefan yma.

Llinell gymorth: 0303 123 1113

Mae gwybodaeth pellach ar sut i arfer eich hawliau ar gael ar wefan yr ICO. 

Fe'ch anogir i gyfeirio unrhyw bryderon at BIPBA yn y lle cyntaf.

Sylwir os gwelwch yn dda bod rhai dolenni allanol ddim ar gael yn y Gymraeg.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.