Neidio i'r prif gynnwy

At ba ddiben rydym ni'n ei phrosesu?

Mae eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu ar PCBA at y dibenion canlynol:

  • Darparu copïau o rannau o'u cofnod iechyd i gleifion
  • Darparu modd effeithlon i gleifion gyfathrebu â thimau clinigol er mwyn darparu gwell gwasanaethau gofal iechyd
  • Casglu gwybodaeth gwerthuso gwasanaethau’n effeithlon i gefnogi’r gwaith o ddarparu a rheoli gwasanaethau gofal iechyd
  • Grymuso cleifion i rannu eu gwybodaeth yn hawdd â derbynwyr dewisol er mwyn cefnogi eu hanghenion gofal iechyd

Bydd yr hyn sy'n cael ei ychwanegu at eich cofnod PCBA yn dibynnu ar benderfyniadau gan wasanaethau unigol a'r defnydd o PCBA, yn ogystal â'ch anghenion clinigol.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.