Neidio i'r prif gynnwy

Am faint byddwn ni'n ei storio?

Cedwir eich gwybodaeth ar PCBA yn unol â gofynion storio’r GIG. Ni fyddwn yn storio eich gwybodaeth bersonol ar PCBA am fwy o amser nag sydd ei angen.

Bydd gwybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn eich Cofnod Claf BIPBA, sy’n bwysig ac yn gallu effeithio ar y gwasanaethau y byddwch yn eu derbyn gan BIPBA, ar gael yn eich Cofnod Iechyd (a gedwir y tu allan i PCBA gan BIPBA). Bwriad PCBA yw cadw copïau o'ch Cofnod Iechyd yn unig, ac nid yw'n gweithredu fel Cofnod Iechyd ynddo'i hun. Am y rheswm hwn, bydd eich Cofnod Claf ar gyfer BIPBA ar PCBA yn cael ei gadw am 2 flynedd yn unig yn dilyn eich mynediad diwethaf i’ch cofnod, neu tan ddiwedd contract BIPBA gyda PKB (pa un bynnag ddaw gyntaf fydd yn berthnasol).

Os byddwch yn agosáu at y cyfnod o 2 flynedd heb ddefnyddio’r cofnod, byddwch yn cael o leiaf 30 diwrnod o rybudd cyn i’ch cofnod gael ei ddileu a'r cyfle i ddefnyddio PCBA. Os na fyddwch yn defnyddio PCBA o fewn y cyfnod hwn, caiff eich mynediad ei ddileu ac adolygir eich gwybodaeth i’w dileu.

Bydd gwybodaeth bersonol yn ddienw pan na fydd ei hangen mwyach mewn fformat adnabyddadwy.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.