Neidio i'r prif gynnwy

A oes angen i mi hawlio Cofnod Claf ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar PCBA?

Os byddwch yn penderfynu cymryd rhan ym Mhorth Cleifion Bae Abertawe a hawlio’ch Cofnod Claf ar gyfer BIPBA, bydd y gwasanaeth sy’n eich gwahodd i gymryd rhan yn gallu rhoi cyfarwyddiadau i chi am y broses o hawlio’ch Cofnod ar PCBA. Bydd y gwasanaeth hefyd yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych cyn i chi benderfynu a ydych am hawlio’ch Cofnod Claf ar PCBA.

Os byddwch yn dewis peidio â hawlio’ch Cofnod Claf ar gyfer BIPBA, ni fydd eich gofal clinigol yn cael ei effeithio’n negyddol mewn unrhyw ffordd ac ni chaiff ei ddal yn eich erbyn mewn unrhyw ffordd. Nid oes unrhyw bwysau arnoch i hawlio Cofnod Claf ar PCBA.

Wedi dweud hynny, mae manteision o gael cofnod ar Borth Cleifion Bae Abertawe, gan gynnwys y cyfle i gyrchu rhywfaint o’ch gwybodaeth iechyd o’ch cartref a rhannu’r wybodaeth honno ag unrhyw un rydych chi’n ei ddewis (er enghraifft, efallai y byddwch yn dewis rhannu rhywfaint ag un person, yn dewis rhannu adran wahanol o'ch gwybodaeth gyda rhywun arall, a'r cyfan gyda thrydydd person).  Byddwch hefyd yn gallu cyfathrebu'n uniongyrchol â'ch tîm clinigol.

Chi biau'r dewis a ydych chi'n hawlio'ch Cofnod Claf ar gyfer BIPBA ar Borth Cleifion Bae Abertawe ai peidio, a gallwch chi newid eich meddwl unrhyw bryd drwy e-bostio tîm y prosiect – SBU.PKBProject@wales.nhs.uk. Os byddwch yn dileu eich hawliad yn ddiweddarach ar eich Cofnod BIPBA, a gedwir ar Borth Cleifion Bae Abertawe, bydd eich mynediad at y wybodaeth hon yn cael ei ddileu.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.