Gall eich meddyg teulu gysylltu â CAMHS i ofyn am asesiad brys os oes angen. Os yw eich meddygfa ar gau, gallwch gysylltu â'r meddyg teulu y tu allan i oriau trwy 111.
Unwaith y bydd eich plentyn yn ffit yn feddygol i gael ei ryddhau, bydd yr Adran Achosion Brys yn atgyfeirio at CAMHS. Bydd yr Asesiad Risg Iechyd Meddwl yn cael ei gwblhau yn yr ysbyty neu yn y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.