Os ydych chi'n ymdopi â hwyliau isel, pryder, straen neu anhunedd mae'n werth rhoi cynnig ar rai o'r adnoddau hunangymorth a'r cyrsiau ar-lein a argymhellir isod.
Ewch i'r dudalen hon i gael gwybodaeth am lyfrau a thaflenni er mwyn gwella iechyd meddwl a lles.
Os ydych chi'n parhau i gael trafferth gyda'ch iechyd meddwl ar ôl rhoi cynnig ar rai o'r adnoddau gan gynnwys Silver Cloud, siaradwch â'ch meddyg teulu.
Yna gall eich meddyg teulu eich atgyfeirio at ein Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS) neu at y gwasanaeth arbenigol mwyaf priodol i chi.
Os cewch eich atgyfeirio, bydd asesydd nyrsio yn trefnu ymgynghoriad ar-lein i gynnal asesiad iechyd meddwl a phan fo hynny'n briodol, yn gweithio gyda chi i greu cynllun gofal wedi'i bersonoli.
Darperir hyn yn aml trwy therapi grŵp oherwydd gwyddys bod hyn yn ffordd bwerus ac effeithiol o ddarparu'r driniaeth hon.
Efallai y bydd aseswyr nyrsio hefyd yn eich cynghori i ymuno â grwpiau a gweithgareddau cymunedol ac ystyried eich opsiynau cyflogaeth.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.