Croeso i dudalen y Tîm Adnoddau Cymunedol (CRT).
Ewch yn syth i sut i wneud atgyfeiriad a manylion cyswllt.
Mae'r gwasanaeth hwn yn cefnogi rhyddhau o'r ysbyty, gan ddarparu'r Gwasanaeth Rhyddhau Cyflym i Asesu newydd.
Mae ganddo dîm amlddisgyblaethol sy'n cynnwys therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, nyrsys cyswllt rhyddhau cymunedol, gweithiwr cymdeithasol/swyddog rheoli gofal, uwch staff gofal a swyddog cymorth busnes. Mae'r timau pwynt mynediad cyffredin a Rhyddhau Cyflym i Asesu yn gweithredu'r gallu i ymateb ar yr un diwrnod, lle bo'n briodol.
Mae'r tîm therapi yn cynnwys therapyddion galwedigaethol (cyflogeion awdurdodau lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr), ffisiotherapyddion, therapi lleferydd ac iaith (SLT), dieteteg, cynorthwywyr proffesiwn-benodol a gweithwyr cymorth generig.
Mae'r gwasanaeth yn rhedeg gwasanaeth penwythnos wedi'i dargedu, i ymateb i atgyfeiriadau cymunedol brys a rhyddhau o'r ysbyty.
Mae'r gwasanaeth wedi'i leoli ar draws tri hwb: Gorllewin a Chanolog, y Ganolfan Ddinesig yn Abertawe a Hyb y Gogledd yn Ysbyty Gorseinon.
Rhaid cyflwyno POB atgyfeiriad trwy Signal.
I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch laura.turner3@wales.nhs.uk
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.