Gall plant, yn enwedig y rhai sy'n ifanc iawn neu sydd â chyflyrau iechyd tymor hir, fod yn dost iawn gan y ffliw.
Mae gan blant dwy oed hyd at Flwyddyn 6 yn yr ysgol gynradd hawl i gael brechiad am ddim. Rhoddir chwistrell trwynol Fluenz iddynt yn lle'r brechiad.
Mae'n cynnwys firws ffliw byw sydd wedi'i gynllunio i wneud i'r corff gynhyrchu gwrthgyrff. OND mae'r firws wedi'i wanhau felly ni all y brechiad achosi'r ffliw.
Yn yr un modd â'r brechiad ffliw wedi'i chwistrellu, gall y chwistrell trwynol adael plant yn teimlo dan y tywydd, efallai gyda thwymyn bach a phoenau. Efallai bod ganddyn nhw drwyn yn rhedeg hefyd neu fod angen iddyn nhw chwythu eu trwyn lawer.
Dylai'r symptomau hyn ddiflannu ar ôl cwpl o ddiwrnodau.
Mae'r rhaglen brechu ysgolion ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd ar y gweill.
Gweler y ddolen hon sy'n mynd â chi at restr o'r dyddiadau y bydd brechwyr yn ymweld ag ysgolion lleol.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.