Mae unedau profi cymunedol symudol yn gweithredu ar draws Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot. Mae’r rhain yn ychwanegol at y ganolfan brofi sefydlog yn Lôn Longlands ym Margam, sydd wedi’i lleoli ychydig oddi ar yr M4.
Mae gan rai o'r unedau apwyntiadau gyrru drwodd, rhai yn cerdded i mewn ac eraill yn gymysgedd o'r ddau. Unrhyw un sydd eisiau prawf mae'n rhaid archebu lle ymlaen llaw. Rhaid gwneud apwyntiadau trwy wefan Llywodraeth Cymru neu trwy ffonio 119.
Bydd angen ffôn symudol neu gyfeiriad e-bost arnoch hefyd oherwydd byddwch yn derbyn cod diogel i gadarnhau'r archeb trwy neges destun neu e-bost, a rhaid dangos hyn wrth fynychu'r apwyntiad. Pan gyrhaeddwch, gofynnir ichi hefyd ddod â phrawf o gyfeiriad.
Yn yr unedau symudol rhoddir pecyn hunan-profi i chi, a bydd staff yn rhoi cyfarwyddiadau i chi.
Efallai y bydd Unedau Profi Symudol eraill wedi'u sefydlu ar sail ad-hoc, gall amseroedd apwyntiadau fod yn wahanol i'r rhai a nodwyd uchod. Bydd archebion ar y safleoedd hyn hefyd yn cael eu harddangos trwy wefan Llywodraeth Cymru neu trwy ffonio 119.
Cwblhawyd asesiad risg llawn ar gyfer pob safle, gyda mesurau ar waith i sicrhau y bydd pob safle yn amgylchedd glân a diogel, i'r rhai sy'n mynychu a'r rhai sy'n byw yn y cyffiniau.
Fel arall, gallwch hefyd archebu prawf yn y ganolfan brofi sefydlog yn Lôn Longlands ym Margam, sydd wedi'i lleoli ychydig oddi ar yr M4, trwy ffonio 01639 862757 rhwng 9am-8pm.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.