Rwy'n ymgynghorydd mewn meddygaeth frys gyda diddordeb mewn meddygaeth chwaraeon ac ymarfer corff.
Cwblheais Ddiploma Ôl-raddedig mewn Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2015 ac rwy’n ddarlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn addysgu ar fodiwl trawma chwaraeon y BSc Gofal Argyfwng, Cyn Ysbyty ac Ar Unwaith (EPiC - Emergency, Pre-Hospital and Immediate Care).
Rwyf hefyd yn oruchwyliwr prosiect ar gyfer dau fyfyriwr EPiC sydd â diddordeb arbennig mewn cyfergyd ac anafiadau trawma chwaraeon acíwt.
Rwyf hefyd yn aelod o Grŵp Iechyd Athletwyr Benywaidd Sefydliad Chwaraeon y Gwledydd Cartref.
Yn ystod y pandemig Covid bûm yn ymwneud ag ymchwil gyda Chanolfan Ymchwil Meddygaeth Frys Cymru ac yn eistedd ar Grŵp Ymchwil Adran Achosion Brys Treforys.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.