Gyfarwyddwr WCEMR
Gyfarwyddwr WCEMR
Rwy’n ymgynghorydd mewn meddygaeth frys a meddygaeth gofal dwys, sydd wedi bod yn ymwneud â gweithgareddau ymchwil gyda’r Uned Ymchwil Biofeddygol Haemostasis (HBRU - Haemostasis Biomedical Research Unit), sy’n rhan annatod o Ganolfan Ymchwil Meddygaeth Frys Cymru, ers 2009.
Mae fy niddordeb ymchwil yn canolbwyntio ar sut mae sepsis a salwch anadlol acíwt yn effeithio ar lif y gwaed, ceulo a hemostasis. Mae fy ngwaith ar sepsis wedi'i gyhoeddi mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid.
Mae fy rhaglen ymchwil bresennol yn edrych ar sut mae clefydau anadlol acíwt a’r newidiadau pathoffisiolegol sylfaenol mewn cleifion sy’n dod i’r adran achosion brys, fel y rhai â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD - chronic obstructive pulmonary disease), mewn perygl o ddatblygu digwyddiadau thromboembolig fel thrombo-emboledd gwythiennol.
Ar hyn o bryd fi yw is-lywydd (tan fis Tachwedd 2023) ac arweinydd academaidd Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys (RCEM - Royal College of Emergency Medicine) Cymru ac yn aelod o bwyllgor ymchwil RCEM.
Rwyf hefyd yn uwch ddarlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.