Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y cyngor diweddaraf gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), sydd wedi cynghori y dylid cynnig brechiad COVID-19 gwanwyn/haf i’n dinasyddion mwyaf agored i niwed yn 2025.
Mae'n cael ei gynnig fel rhagofal fel y gall y rhai sydd fwyaf mewn perygl o fynd yn ddifrifol wael os ydynt yn dal coronafirws gadw lefel uchel o imiwnedd.
I bwy rydyn ni'n cynnig y brechlyn?
Pryd fyddaf yn cael brechlyn?
Bydd rhaglen gwanwyn/haf COVID-19 yn rhedeg rhwng dydd Mawrth 1af Ebrill a dydd Llun 30ain Mehefin 2025. Bydd rhywfaint o hyblygrwydd cyfyngedig tan fis Gorffennaf, ar gyfer y rhai na allant gael brechiad o fewn prif ffenestr y rhaglen, oherwydd salwch.
Sut a phryd y byddaf yn clywed?
Anfonir llythyr neu neges destun atoch gan Dîm Imiwneiddio BIP Bae Abertawe gydag apwyntiad mewn meddygfa, fferyllfa gymunedol leol neu ar fwrdd ein Imbiwlans.
Mae'r apwyntiad sy'n cael ei gynnig ar gyfer sesiwn atgyfnerthu Covid-19 gwanwyn/haf 2025.
Mae’n bosibl y byddwch yn clywed gennym o ddydd Llun 17eg Mawrth ymlaen, gan fod apwyntiadau’n dechrau o ddechrau Ebrill 2025.
Ond peidiwch â phoeni os na fyddwch chi'n clywed gennym ni ar unwaith, bydd apwyntiadau'n cael eu rhoi wrth i ni weithio drwy'r grwpiau cymhwysedd. Byddwn yn cynnig hwb atgyfnerthu’r gwanwyn tan ddiwedd mis Mehefin 2025.
Nid oes angen cysylltu â'ch meddygfa na'r bwrdd iechyd. Os ydych yn gymwys, anfonir apwyntiad atoch.
Sut gallaf ganslo neu newid fy apwyntiad?
Os na allwch wneud eich apwyntiad, cyfeiriwch at eich llythyr gwahoddiad a cysylltwch â'r Tîm Archebu Imiwneiddio ar 01639 862323.
Bydd rhagor o wybodaeth am raglen atgyfnerthu Covid-19 gwanwyn/haf 2025 yn cael ei hychwanegu at y dudalen hon pan fydd ar gael.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.