Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi bod yn gweithio'n agos ers sawl blwyddyn i ddod o hyd i ateb i'r problemau gyda'r briffordd a thraphont y Cymer. Mae’r llwybr hwn yn darparu’r unig fynediad addas i gerbydau trwm, gan gynnwys lorïau, bysiau a cherbydau brys ar gyfer cymunedau Abercregan a Glyncorrwg. Byddai gwelliannau i'r ffordd ger traphont y Cymer yn golygu y gallai cerbydau trwm ddefnyddio'r ffordd hon a lleihau'r risg y byddai'r cymunedau hyn yn cael eu torri i ffwrdd. Byddai angen i'r gwelliannau hyn ddefnyddio'r tir lle mae Canolfan Iechyd y Cymer wedi'i lleoli ar hyn o bryd. Felly mae angen nodi safle arall ar gyfer y ganolfan iechyd.
Yn ogystal, nid yw'r llety presennol ar gyfer Canolfan Iechyd y Cymer bellach yn addas ar gyfer darparu gofal iechyd yr 21ain ganrif. Mae Canolfan Iechyd y Cymer wedi'i gwerthu i Gyngor Castell-nedd Port Talbot a chytunwyd ar brydles fel y bydd gwasanaethau gofal sylfaenol yn parhau i gael eu darparu o'r adeilad nes bod yr adeilad arall ar gael i'w ddefnyddio.
Byddai lleoliad arall mewn adeilad addas yn rhoi'r cyfle i ehangu'r gwasanaethau a gynigir a darparu Canolfan Iechyd a Lles ar gyfer Cwm Afan Uchaf.
Gellir gwneud cais am fersiynau copi caled o’r ddogfen ymgysylltu hon, yn Gymraeg, print bras (Cymraeg a Saesneg) drwy ffonio 01639 683355 neu anfon e-bost atom yn SBU.engagement@wales.nhs.uk
Mae eich barn yn bwysig i ni, dywedwch wrthym beth yw eich barn am y cynigion, byddwn yn casglu eich barn o ddydd Llun 24 Mehefin tan ddydd Gwener 19 Gorffennaf 2024.
Bydd canlyniad yr ymgysylltu hwn a’r holl ymatebion a dderbyniwyd yn cael eu hystyried gan Llais a’r Bwrdd Iechyd ym mis Gorffennaf 2024. Ar sail y rhain, bydd y Bwrdd Iechyd yn penderfynu pa un o’r ddau opsiwn ar y rhestr fer y dylid bwrw ymlaen â nhw.
Isod fe welwch fanylion y gwahanol ffyrdd y gallwch gysylltu â ni a chymryd rhan yn yr ymgysylltu hwn.
Dydd Mawrth, 9 Gorffennaf, 2024, 2.00 pm i 4.00 pm, Canolfan Gymunedol Cwmafan, SA12 9BA.
Dydd Iau, 11 Gorffennaf, 2024, 10.00 am i 12:00pm, Canolfan Gymunedol Croeserw, SA13 3PL
Postio eich sylwadau yn y blychau yn y Meddygfeydd yn y Cymer a Chwmafan.
Ysgrifennu atom: Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, One Talbot Gateway, Baglan, SA12 7BR.
E-bostio ni: SBU.engagement@wales.nhs.uk
Ffonio ni a gadael neges i ni: 01639 683355
Cysylltu â ni ar Facebook: Dolen i'n tudalen Facebook yma
Neu cysylltwch â ni ar X/Twitter: Dolen i'n cyfrif Twitter yma
Fel arall gallwch roi eich barn i Llais drwy:
Ysgrifennu at Llais: Llais (CNPT ac Abertawe), Ysbyty Cimla, Cimla, Castell-nedd, SA11 3SU.
Neu e-bostiwch Llais: nptandswansea.enquiries@llaiscymru.org
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.