We All Belong yw Cynllun Cydraddoldeb Strategol Bwrdd Iechyd Bae Abertawe ar gyfer 2025-28. Isod, amlinellir sut mae’n cyd-fynd â’n cynlluniau, sut y gwnaethom eu datblygu, y materion a nodwyd o’n hymrwymiadau a’r camau y bwriadwn eu cymryd yn 2025-26 i ddechrau mynd i’r afael â’r rhain.
Rydym wedi galw’r cynllun hwn yn Rydym i gyd yn Perthyn oherwydd drwy gydol ein trafodaethau â phobl, boed y cyhoedd, cleifion, teuluoedd neu’n staff, fe ddywedon nhw wrthym sut roedden nhw’n teimlo bod rhwystrau iddyn nhw gael mynediad i wasanaethau oherwydd eu nodwedd(ion) gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac fe’u gwnaed i deimlo’n wahanol o fewn ein gwasanaethau. Rydym am sicrhau bod pob person yn teimlo ei fod yn perthyn i’n holl wasanaethau – boed fel defnyddiwr gwasanaeth, aelod o’r teulu sy’n eu cefnogi, neu fel aelod o staff. Mae hyn hefyd yn berthnasol i wasanaethau rydym yn eu comisiynu gan sefydliadau eraill ar gyfer ein poblogaeth.
Dilynwch y ddolen hon i weld Cynllun Cydraddoldeb Strategol Rydym i Gyd yn Perthyn 2025-2028.
Sylwch: Mae'r ddolen isod ar gael yn Saesneg yn unig. Nid yw'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am wefannau trydydd parti. Ymddiheurwn os yw hyn yn achosi unrhyw anghyfleustra.
Dilynwch y ddolen hon i weld y Cynllun Gweithredu Rydym i Gyd yn Perthyn.
Fel y cyhoedd, ein cleifion, ein staff a’n partneriaid, rydym eisiau gwybod beth yw eich barn am ein cynllun. Rydym yn ymgysylltu ar We All Belong rhwng 17eg Mawrth a 25ain Ebrill 2025.
Gallwch roi eich adborth i ni gan ddefnyddio'r ddolen isod i gael mynediad i'n holiadur ar-lein:
Dilynwch y ddolen hon i holiadur Rydym i Gyd yn Perthyn.
Neu gallwch anfon e-bost atom yn BIPBA.ymgysylltu@wales.nhs.uk
Neu gallwch ein ffonio ar 01639 683 355 a byddwn yn eich ffonio yn ôl i wneud nodyn o'ch sylwadau.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.