Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg Profiad Mamolaeth Llais 2024

Delwedd o logo Llais.

*Postiwyd ar ran Llais*

Mae Llais Castell-nedd Port Talbot a Rhanbarth Abertawe wedi lansio eu Harolwg Mamolaeth 'Cael Baban' yn ddiweddar.

Bydd yr arolwg hwn ar agor am gyfnod o 12 wythnos, gan gau Ddydd Llun 30ain Medi 2024.

Fel y gwyddoch efallai eisoes, ym mis Rhagfyr 2023, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ei fod wedi comisiynu Adolygiad Annibynnol o wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol ym Mae Abertawe, i gynnal hyder y cyhoedd yn y gofal a ddarperir.

Mae Llais eisiau clywed gan famau, tadau a theuluoedd lleol am eu profiadau diweddar o ofal mamolaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rydym yn casglu adborth am bob cam o daith y beichiogrwydd.

Ffyrdd o rannu eich adborth:

Siaradwch â ni, ysgrifennwch atom, anfonwch neges atom a dywedwch wrthym beth yw eich barn trwy'r sianeli hyn:

Gallwch rannu eich barn drwy ein harolwg ar-lein 'Cael Babi' yma.

Ffoniwch ni: 01639 683490

E-bostiwch ni: maternityexperience@llaiscymru.org

 

Chwilio am bobl i ymuno â'n grwpiau ffocws

A ydych wedi derbyn gofal mamolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA) yn ystod y 5 mlynedd diwethaf?

Os ydych, hoffai Llais glywed am eich profiad. Rydym yn cynnal 3 sesiwn grŵp ffocws yn y gymuned leol, i glywed beth aeth yn dda a beth sydd angen ei wella am wasanaethau mamolaeth.

I gofrestru eich diddordeb, cysylltwch â ni drwy un o'r dulliau uchod. Rydym yn chwilio am 20 o gyfranogwyr ar gyfer pob grŵp, y mae'n rhaid iddynt fyw neu ddefnyddio gwasanaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. 

Byddwn yn darparu lle diogel i siarad a lluniaeth ysgafn. Os oes angen cymorth arnoch i ymuno â sesiwn, neu os byddai'n well gennych siarad â rhywun 1-i-1, rhowch wybod i ni.

Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys dyddiadau, lleoliadau a sut i archebu lle i fynychu sesiwn, dilynwch y ddolen hon i wefan Eventbrite.

 

Yn galw ar bob grŵp cymunedol!

Rydym yn gweithio gyda grwpiau lleol i wneud yn siŵr ein bod yn clywed gan amrywiaeth o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys y rhai y clywir eu lleisiau yn llai aml. Os ydych yn aelod o grŵp lleol neu gynrychiolydd cyhoeddus ac eisiau gweithio gyda ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

 

Cwrdd â'ch anghenion

Os oes angen unrhyw un o'n atodiadau neu gyhoeddiadau arnoch mewn fformatau eraill, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i ddiwallu'ch anghenion. Mae ein harolygon hefyd ar gael ar ffurf copi caled, a gallwn ddarparu amlenni â chyfeiriad a stamp ar gais.

Byddwn yn rhannu’r hyn a glywn gyda’r bobl sy’n cynllunio ac yn darparu ein gwasanaethau iechyd a gofal, fel eu bod yn gwrando ac yn gweithredu ar y pethau sydd bwysicaf i chi.

Dywedwch wrthym beth yw eich barn erbyn hanner nos, Dydd Llun 30ain Medi 2024.

 

Ein helpu ni i glywed gan fwy o bobl

Gallwch ein helpu trwy ddilyn ein tudalen Facebook a rhannu ein postiadau cyfryngau cymdeithasol, dilynwch y ddolen hon i'n tudalen.

Neu gallwch ofyn am gopi caled o arolygon ac amlenni rhagdaledig i chi'ch hun, neu aelodau o'ch grŵp eu cwblhau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.