Cam-drin Domestig a Chadw'n Ddiogel
Nid yw cam-drin domestig yn dderbyniol; nid unrhyw un sy'n profi trais a cham-drin domestig sydd ar fai ac nid ydych ar eich pen eich hun. Mae help a chefnogaeth ar gael.
Os ydych chi'n poeni am eich diogelwch neu'ch lles ac angen cyngor a chefnogaeth, ffoniwch ni yn y Llinell Gymorth Live Fear Free ar 0808 80 10 800.
Os ydych chi'n poeni'n benodol am blentyn, cysylltwch â Llinell Gymorth NSPCC - 0808 800 5000.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.