Cynigir gofal ysbrydol i'r holl staff oherwydd ein bod yn deall y pwysigrwydd y mae'n ei chwarae wrth ein helpu i lywio bywyd, delio â straen a digwyddiadau anodd a hefyd yn cyfrannu at y broses o wella.
Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe dîm o gaplaniaid o wahanol gredoau ac enwadau, sy'n gweithredu ar draws pob safle i ddarparu gofal ysbrydol a chrefyddol.
Rydym yn cydnabod y gall gweithio ym maes gofal iechyd fod yn anodd weithiau ac y gall cael rhywun i gymryd amser i wrando ac annog chi fod yn ddefnyddiol.
Rydym yn cynnig: -
Mae ein Caplaniaid ar gael rhwng 8.30am-4.30pm ar 33301, 01792 703301
Neu tu allan i oriau, mae cefnogaeth ffôn ar gael i staff sy'n ei chael hi'n anodd ac sy'n dymuno siarad. Ffoniwch unrhyw un o switsfyrddau'r ysbyty a gofynnwch am y Caplan Dyletswydd. Yn olaf, gallwch anfon e-bost atom ar SBU.Chaplaincy@wales.nhs.uk
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.