Polisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud â chynnal busnes a darparu gwasanaethau, adnoddau dynol a recriwtio a chyflogaeth
Mae gan y Bwrdd Iechyd nifer fawr o bolisïau sy'n ymwneud ag adnoddau dynol, cynnal busnes, ac ati. Gellir cael rhagor o fanylion ar gais gan Ysgrifennydd y Bwrdd ym Mhencadlys Bae Abertawe ar (01639) 683323.
Cynllun Strategol Cydraddoldeb
Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb
Cynllun Iaith Gymraeg yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993
Rheolau Sefydlog a Chyfarwyddiadau Ariannol
Cwynion a pholisïau a gweithdrefnau gwasanaethau cwsmeriaid eraill
Mae adran ar y wefan o dan Cwynion a Phryderon ar sut i wneud cwyn, sylw neu ganmoliaeth. Polisïau i'w cyhoeddi'n fuan.
Gwarchod Data / Rheoli Cofnodion / Gwarcheidwad Caldicott
Llywodraethu Gwybodaeth Egwyddorion Caldicott ar Waith
Rheoli Ystadau
Mae Cynlluniau a Datblygiadau yn y Dyfodol i'w gweld yn yr Adran newyddion ar y wefan.
Trefniadau Codi Tâl
Gellir lawrlwytho'r rhan fwyaf o wybodaeth yn rhad ac am ddim o wefan y Bwrdd Iechyd. Darperir gwybodaeth mewn fformatau amgen ar gais er mwyn cydymffurfio â Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995.
Fodd bynnag, efallai y codir tâl am geisiadau am allbrintiau lluosog, am gopïau wedi'u harchifo o ddogfennau nad ydynt bellach ar gael neu sydd ar gael ar y wefan neu ar gyfer dogfennau mewn cyfryngau eraill (ee CD Rom) i dalu am y cynhyrchiad a'r postio. Bydd y Bwrdd Iechyd yn eich hysbysu o'r gost a'r taliadau i'w talu ymlaen llaw.
Noder, nid yw'r dogfennau a grybwyllir ar y dudalen hon ar gael ar wefan Cymraeg ar hyn o bryd. Cyfeiriwch at y dudalen Saesneg i weld nhw.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.