Cael gafael ar driniaeth yng ngwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd - Daeth Gweithdrefn Cymru Gyfan ar gyfer Cleifion o Gymru sy’n Cael Triniaeth yng Ngwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd i ben am 11yp ar 31ain Rhagfyr 2020. Ni fydd ceisiadau a hawliadau am ad-daliad o dan y weithdrefn hon yn cael eu hystyried.
Mae’r DU wedi gadael yr UE ac mae mynediad at driniaeth yn Ewrop wedi newid.
Fodd bynnag, efallai y byddwch yn dal i allu cael mynediad at ofal iechyd a ariennir gan y GIG yn Ewrop trwy'r llwybr S2 (triniaeth wedi'i chynllunio), os ydych yn bodloni meini prawf cymhwysedd penodol.
Mae'r S2 yn drefniant llwybr ariannu uniongyrchol rhwng y GIG a darparwr gofal iechyd y wladwriaeth yn y wlad o'ch dewis, trwy Gytundeb Ymlaen Llaw.
Rhaid i chi gael caniatâd ymlaen llaw gan y bwrdd iechyd cyn cael triniaeth.
Wrth ddewis y llwybr S2, eich cyfrifoldeb chi yw gwneud y trefniadau, gan gynnwys dod o hyd i ddarparwr gofal iechyd.
Bydd angen trefnu costau teithio, llety a chostau cysylltiedig eraill ar eich cost eich hun.
Mae'n bwysig eich bod yn gwneud gwaith ymchwil ac yn casglu digon o wybodaeth i wneud dewis gwybodus oherwydd ni fydd y GIG yn atebol am esgeulustod neu fethiant triniaeth.
Dylech hefyd sicrhau bod gennych yswiriant digonol. Ni fydd y rhan fwyaf o bolisïau yswiriant teithio yn cynnwys triniaeth wedi’i chynllunio dramor, felly efallai y bydd angen yswiriant arbenigol.
Rhaid i'r driniaeth fod ar gael o dan y GIG yng Nghymru a rhaid iddi fod ar gael o dan gynllun gofal iechyd y wladwriaeth y sir sy'n trin.
Ni fydd ceisiadau ôl-weithredol a cheisiadau am ad-dalu costau triniaeth yn cael eu hystyried.
Os caiff cais ei gymeradwyo, bydd y driniaeth yn cael ei darparu o dan yr un amodau gofal a thaliad ag a fyddai’n berthnasol i drigolion y wlad y byddwch yn cael eich trin ynddi.
Gallai hyn olygu y bydd yn rhaid i chi dalu canran o’r costau yn bersonol, gelwir hyn yn dâl cyd-dalu.
Ni ddylai darparwyr sy’n derbyn cleifion o dan lwybr ariannu S2 byth ofyn i chi dalu am eu costau triniaeth cymwys, ac eithrio yn achos tâl cyd-dalu.
Ni ellir cyhoeddi / cymeradwyo S2s os talwyd am unrhyw rai o'r costau trin eisoes (oni bai bod y taliad yn ymwneud â'r tâl cyd-dalu).
Nid gwasanaeth ad-dalu yw llwybr ariannu S2.
Darllenwch y wybodaeth sydd ar gael yn y nodiadau canllaw sy'n amlinellu'r meini prawf cymhwysedd a'r wybodaeth sydd ei hangen i gefnogi ceisiadau S2.
NODYN: Nid oes rheidrwydd ar y Bwrdd Iechyd Lleol i gymeradwyo cais S2 nad yw'n bodloni'r meini prawf cymhwyster.
Mae ceisiadau S2 sy'n ymwneud â mamolaeth yn cael eu prosesu'n wahanol.
Sylwch: Mae'r ddolen isod ar gael yn Saesneg yn unig. Nid yw'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am wefannau trydydd parti. Ymddiheurwn os yw hyn yn achosi unrhyw anghyfleustra.
Ewch i wefan y GIG am gyngor ar roi genedigaeth y tu allan i'r DU ac i lawrlwytho ffurflen gais.
Nid yw'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am gynnwys gwefannau trydydd parti, a allai fod yn Saesneg yn unig
Ewch i ffurflen gais S2 am driniaeth wedi'i chynllunio.
Ewch i ffurflen datganiad darparwr triniaeth S2.
Sylwch: Mae'r ddolen isod ar gael yn Saesneg yn unig. Nid yw'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am wefannau trydydd parti. Ymddiheurwn os yw hyn yn achosi unrhyw anghyfleustra.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.