Neidio i'r prif gynnwy

Cymeradwyaeth Ymlaen Llaw

Beth yw Cymeradwyaeth Ymlaen Llaw (Prior Approval - PA)?

Fel arfer diffinnir cais am gymeradwyaeth ymlaen llaw fel cais i glaf gael triniaeth arferol y tu allan i wasanaethau lleol neu drefniadau cytundebol sefydledig.

Dim ond pan fydd yr holl opsiynau triniaeth sydd ar gael o fewn gwasanaethau a ddarperir yn lleol neu ar gontract wedi'u dihysbyddu a'i bod yn glinigol briodol ystyried cael mynediad at wasanaethau gofal iechyd yn rhywle arall y dylid defnyddio'r llwybr cymeradwyo ymlaen llaw.

Bydd cais o’r fath fel arfer yn dod o fewn un o’r categorïau canlynol:

  • Ail farn
  • Diffyg darpariaeth gwasanaeth/arbenigedd lleol/wedi'i gomisiynu
  • Parhad gofal clinigol (yn cael ei ystyried fesul achos)
  • Trosglwyddo yn ôl i'r GIG yn dilyn hunan-ariannu yn y sector preifat
  • Ail-atgyfeiriad yn dilyn atgyfeiriad trydyddol blaenorol
  • Myfyrwyr
  • Cyn-filwyr

Nid yw’r polisi Cymeradwyaeth Ymlaen Llaw yn berthnasol i’r ffactorau canlynol:

  • Ni fydd ffactorau anghlinigol (fel statws cyflogaeth) yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau am gymeradwyaeth ymlaen llaw.
  • Ni fydd ffactorau amseroedd aros yn cael eu hystyried wrth ystyried cymeradwyaethau ymlaen llaw gan y bydd hyn yn ddamcaniaethol yn blaenoriaethu rhai cleifion dros eraill sydd yn yr un sefyllfa glinigol.
  • Dewis y claf. Nid yw’r GIG yng Nghymru yn gweithredu system o ddewis cleifion. Fodd bynnag, mae cleifion trawsffiniol yn gallu dewis eu darparwr gofal eilaidd. Ar ôl cyflwyno ffurflen gais Cymeradwyaeth Ymlaen Llaw wedi'i chwblhau'n llawn, bydd panel annibynnol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac aelodau lleyg yn cyfarfod i ystyried y cais am Gymeradwyaeth Ymlaen Llaw a'r dystiolaeth glinigol.

 

Byddwch yn ymwybodol os gwelwch yn dda:

 

Gwybodaeth bellach

Nid yw'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am gynnwys gwefannau trydydd parti, a allai fod yn Saesneg yn unig

Ewch i'r dudalen hon i weld y Polisi Cymeradwyaeth Ymlaen Llaw.

Ewch i'r dudalen hon i weld y Ffurflen Gais am Gymeradwyaeth Ymlaen Llaw.

Ewch i’r dudalen hon i gael gwybodaeth am Ofal Blaenoriaeth i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.