Mae ansawdd yn golygu rhywbeth gwahanol i bob un ohonom ac mae gennym ni i gyd ran i'w chwarae i wneud ein gwasanaethau y gorau y gallant fod.
Pan ofynnon ni i’n Prif Weithredwr beth mae ansawdd yn ei olygu iddi, dywedodd:
“Gweithio gyda chleifion gan ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw yn eu hamser o angen. Timau a chydweithwyr grymus, ymgysylltiol sy’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cynnwys ac ymdeimlad cryf o berthyn. Gwasanaethau diogel, effeithiol ac effeithlon sy’n cyflawni’r canlyniadau gorau i gleifion – wedi’u llywio gan ddata a thystiolaeth”
Yn 2023 cyhoeddwyd ein Strategaeth Ansawdd lle rydym yn disgrifio'r meysydd lle rydym am wneud gwahaniaeth mawr yn ansawdd ein gofal. Y rhain yw:
Gallwch ddarllen am ein strategaeth ansawdd trwy ddilyn y ddolen hon.
Mae'r tîm corfforaethol ac aelodau'r Bwrdd yn cynnal ymweliadau dirybudd rheolaidd â wardiau ar draws ein safleoedd ysbytai. Mae'r ymweliadau hyn, a gynhelir gan dîm amlddisgyblaethol, yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnal safonau gofal iechyd trwy asesu gofal cleifion, diogelwch, arferion staff a hefyd profiad cleifion a staff. Maent yn helpu i nodi meysydd i'w gwella, gan sicrhau gwelliant parhaus mewn gwasanaethau a chanlyniadau gwell i gleifion.
Yn ogystal, mae'r ymweliadau hyn yn agwedd allweddol ar ein rhaglen sicrhau ansawdd - gan atgyfnerthu atebolrwydd a chadw at arferion gorau. Drwy gynnal safonau uchel, rydym yn meithrin ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn ein system gofal iechyd, gan ddangos ein hymrwymiad i ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Daeth y Ddyletswydd Ansawdd i rym ym mis Ebrill 2023. Mae'r Ddyletswydd yn berthnasol i iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru. Mae’n berthnasol i bopeth a wnawn yn y GIG, gan gynnwys gwaith clinigol ac anghlinigol.
Mae gan y Ddyletswydd ddau nod:
I ddysgu mwy am Ddyletswydd Ansawdd, dilynwch y ddolen hon i wefan Llywodraeth Cymru.
Bob blwyddyn byddwn yn cyhoeddi adroddiad ar ansawdd a diogelwch ein gofal. Mae'r adroddiad hwn yn dweud wrthych sut yr ydym yn gwirio ansawdd ein gofal a'r hyn yr ydym yn ei wneud i wneud gwelliannau.
Un o'r ffyrdd yr ydym yn edrych ar ansawdd gofal yw trwy ein hapwiriad, neu ein systemau sicrwydd. Mae hyn yn golygu bod staff mewn gwasanaethau ac ar draws y sefydliad yn cynnal gwiriadau lle rhoddwyd rhybudd a heb rybudd yn rheolaidd, lle rydym yn ymweld ag ardal i ddysgu am y gofal a ddarperir.
Rydym yn falch o’r gwaith gwella rydym yn ei wneud yn y bwrdd iechyd. Arweinir y gwaith hwn gan staff o fewn gwasanaethau ac mae'n defnyddio eu syniadau o'r hyn a all weithio'n well i wella'r gofal a ddarparwn.
I ddarllen ein hadroddiad blynyddol diweddaraf, dilynwch y ddolen hon.
Cysylltwch, a rhowch wybod i ni:
Dywedwch wrthym sut y gallwn wella'r dudalen hon a'r wybodaeth rydym yn ei rhannu gyda chi. Gallwch wneud hyn drwy e-bostio - SBU.QSIP@wales.nhs.uk
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.