Os bydd problemau'n codi yn ystod arhosiad yn yr ysbyty mae'n well cysylltu â'n timau ar y safle a fydd yn gwneud eu gorau i'w datrys.
Mae gennym Wasanaeth Cyngor a Chysylltiadau Cleifion (neu PALS) yn ysbytai Treforys a Singleton a Gwasanaeth Profiad a Chyngor Cleifion (neu PEAS) yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot.
Mae'r timau hyn yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr mewn ysbytai i roi cymorth, arweiniad a chyngor diduedd i gleifion, eu ffrindiau a'u teuluoedd.
Byddant yn gwrando ar unrhyw bryderon, awgrymiadau ac ymholiadau sydd gennych am ein gwasanaethau ac yn gweithredu ar yr adborth hwnnw i wneud gwelliannau.
Gellir gwneud pryderon, awgrymiadau neu ymholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg; wyneb yn wyneb, yn ysgrifenedig neu dros y ffôn. Ni fydd unrhyw bryderon, awgrymiadau neu ymholiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na’r rhai a wneir yn Saesneg.
Mae Tîm PALS Ysbyty Treforys ar gael ar 01792 531275 neu drwy e-bost yn SBU.MorristonPALS@wales.nhs.uk
Mae Tîm PALS Ysbyty Singleton ar gael ar 01792 205666, gofynnwch am estyniad 37517 neu 37518, neu drwy e-bost yn SBU.palsteamsingleton@wales.nhs.uk
Mae Tîm PEAS Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ar gael ar 01639 684666 neu drwy e-bost yn SBU.patientexperiencenpt@wales.nhs.uk
Gallwch hefyd ysgrifennu at: PEAS, Ysbyty Castell Nedd Port Talbot, Rhos Baglan, Port Talbot, SA12 7BX.
Gweler isod nifer o ddolenni gwahanol i arolygon, lle gallwch roi eich adborth i ni neu wneud awgrym ar sut y gallem wella.
Dilynwch y ddolen hon ar gyfer yr Arolwg Cyfeillion a Theulu ar gyfer apwyntiadau ysbyty ac arosiadau. (Gallwch ddewis eich dewis iaith ar yr arolwg. Mae Cymraeg, Saesneg ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gael)
Dilynwch y ddolen hon ar gyfer Arolwg Cymru Gyfan.
Dilynwch y ddolen hon ar gyfer yr arolwg adborth Awdioleg.
Dilynwch y ddolen hon ar gyfer arolwg adborth Awdioleg Pediatrig.
Dilynwch y ddolen hon ar gyfer yr arolwg adborth Mamolaeth.
Dilynwch y ddolen hon ar gyfer arolwg adborth Endosgopi.
Dilynwch y ddolen hon ar gyfer yr Arolwg Adborth Offthalmoleg.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau e-bostiwch: patient.experience@wales.nhs.uk
Dilynwch y ddolen hon i ddarllen Polisi Preifatrwydd Profiad y Claf.
Dilynwch y ddolen hon i ddarllen Hysbysiad Preifatrwydd Staff - Arolwg COVID-19.
Byddwn yn sicrhau ein bod yn gofalu amdanoch chi a'ch anwyliaid, drwy'r amser, yn ein holl gymunedau ac ysbytai. Byddwn yn gweithio gyda chi, ein cleifion, teuluoedd, gofalwyr a chymunedau fel ein bod bob amser yn rhoi ein cleifion yn gyntaf. Rydym am barhau i wella fel ein bod ar ein gorau i bawb. Rhowch wybod i ni sut rydym yn gofalu amdanoch chi, eich anwyliaid neu os oes pethau y mae angen i ni eu gwneud yn well.
Os ydych chi eisiau rhoi adborth cyffredinol i ni, da neu ddrwg, gallwch ddefnyddio Dewch i Siarad i gysylltu â ni mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd.
Anfonwch e-bost atom yn: SBU.LetsTalk@wales.nhs.uk
Gadael neges llais: 01639 684440
Tecst: 07903591196
Os ydych mewn ysbyty, gallwch gwblhau arolwg ar eich ffôn symudol neu lechen drwy ein gwasanaeth WiFi cyhoeddus rhad ac am ddim 'The Cloud'.
Neu gallwch e-bostio’r tîm Adborth yn uniongyrchol ar: SBU.Complaints@wales.nhs.uk
Dilynwch y ddolen hon i weld poster Dewch i Siarad fel dogfen PDF.
Rhowch enw a chyfeiriad llawn y claf y mae'r adborth yn ymwneud ag ef, ynghyd â rhif ffôn cyswllt ar gyfer y claf neu rywun a enwebwyd i siarad ar eu rhan.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.