Mae gan gleifion sy’n cael gofal lliniarol arbenigol a gofal diwedd oes yr opsiwn o siarad â’n gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig.
Mae'r gwirfoddolwyr yn cynnig eu hamser a chlust i wrando i gleifion sydd â salwch sy'n cyfyngu ar eu bywydau, sydd yn ystod misoedd olaf eu hoes neu sydd efallai heb fawr o ymwelwyr. Maent hefyd yn rhoi cyfle i deulu a ffrindiau gael hoe yn ystod ymweliad, gan wybod y gall un o'r gwirfoddolwyr gadw cwmni i'w hanwyliaid.
Derbyniodd gwirfoddolwyr hyfforddiant arbenigol i baratoi ar gyfer eu rolau, sy’n cynnig cymorth ychwanegol i’r lefel uchel o ofal y mae cleifion eisoes yn ei dderbyn yn Nhŷ Olwen.
Mae’r gwirfoddolwyr yn gweithio ochr yn ochr â staff i ddarparu cymorth un-i-un i gleifion a allai fod am rannu eu straeon a’u pryderon.
Ar gael wyth awr y dydd, gallant gynorthwyo gyda thasgau mwy ymarferol fel sicrhau bod cleifion yn cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu trwy eu helpu i wneud galwadau ffôn a fideo.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.