Nid yw pawb yn cydnabod eu bod yn ofalwr di-dâl. Gofalwr di-dâl yw unrhyw un sy’n gofalu am rywun sy’n sâl, yn anabl, yn hŷn, â phryderon iechyd meddwl neu’n profi dibyniaeth ac nad yw’n cael ei dalu gan gwmni neu awdurdod lleol i wneud hyn.
Mae gofalwyr di-dâl - yn aml yn berthnasau, ffrindiau neu gymdogion - yn darparu cymorth enfawr ond nas cydnabyddir i raddau helaeth, gan helpu pobl i ddychwelyd adref o'r ysbyty ar ôl i'w triniaeth ddod i ben a'u helpu i aros yn iach a byw'n dda gartref.
Bob dydd mae 12,000 o bobl ledled y DU yn dod yn ofalwyr di-dâl, ond nid yw llawer yn gwybod eu hawliau gan gynnwys cymorth ariannol neu gyflogaeth. Mae llawer o bobl yn y gymuned yn ofalwyr di-dâl.
Mae sefydliadau ar draws Bae Abertawe gan gynnwys Canolfan Gofalwyr Abertawe, Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot, Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg a Maggie's yn helpu gofalwyr di-dâl gyda chyngor budd-daliadau lles neu fynediad i grantiau a chronfeydd arbennig, cwnsela neu gymorth cyflogaeth.
Mae Canolfan Gofalwyr Abertawe yn sefydliad gwirfoddol arbenigol sy'n darparu cymorth i ofalwyr di-dâl a chyn ofalwyr ar draws Dinas a Sir Abertawe.
Mae’n cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth i wneud bywyd yn haws i’r gofalwr a’r person y mae’n gofalu amdano. Mae ei holl wasanaethau yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol.
Ewch yma i ymweld â gwefan Canolfan Gofalwyr Abertawe.
Ewch yma i ddarllen am agoriad Canolfan Gofalwyr Abertawe newydd ym mis Tachwedd 2024
Lansiwyd Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot ym mis Ebrill 2009 i gefnogi'r arwyr di-glod sy'n gofalu am anwyliaid nad ydynt yn gallu gofalu amdanynt eu hunain.
Nid yw pawb sy'n gwneud hyn yn meddwl amdanynt eu hunain fel gofalwr, ond mae cyfrifoldebau gofalu yn gosod gofynion enfawr ar eu bywydau. Nod y gwasanaeth yw helpu gofalwyr di-dâl i gydnabod eu rôl ofalu a darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i ofalwyr 18+ oed yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Ewch yma i ymweld â gwefan Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot
Mae Maggie’s yn elusen sydd wedi’i lleoli ar dir Ysbyty Singleton sy’n darparu gofal a chymorth arbenigol am ddim, nid yn unig i bobl sydd wedi cael diagnosis o ganser, ond i’w perthnasau a’u gofalwyr. Ewch yma i ymweld â gwefan Maggie's
Mae Carers Wales yn darparu gwybodaeth a chyngor ar ofalu, yn helpu gofalwyr i gysylltu â'i gilydd, yn ymgyrchu gyda gofalwyr dros newid parhaol, ac yn defnyddio arloesedd i wella gwasanaethau. Ewch yma i fynd i wefan Carers Wales
Mae Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg yn dod â sefydliadau a gwirfoddolwyr ynghyd i wella iechyd a lles pobl Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Un o flaenoriaethau allweddol y bartneriaeth yw darparu cymorth i ofalwyr di-dâl ac ysgogi'r newidiadau sydd eu hangen i wella gwasanaethau a gwella llesiant gofalwyr di-dâl ar draws y rhanbarth. Ewch yma i ymweld â Phartneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.