Beth yw strôc?

Mae strôc yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i ran o'r ymennydd yn cael ei dorri i ffwrdd, gan ladd celloedd yr ymennydd. Mae dau fath gwahanol o strôc: gwaedu ar yr ymennydd (haemorrhagic) neu geulad gwaed (isgemia), sef y mwyaf cyffredin. Mae ymosodiad isgemig dros dro (TIA neu strôc fach) yn para am gyfnod byrrach. Pan fydd y ceulad yn symud, mae'r symptomau'n dod i ben.
Mae'r math o driniaeth y mae cleifion yn ei derbyn yn dibynnu ar y math o strôc.
Rydyn ni bob amser yn dweud mai amser yw'r ymennydd. Y cyflymaf y dewch chi atom ni, y cyflymaf y gallwn ni eich asesu ac os yw'n geulad, mae gennym ni bedair awr a hanner i roi'r thrombolysis i chi, meddyginiaeth a ddefnyddir i doddi ceuladau gwaed.