Gwneud Galwad am Bryder
A yw eich cyflwr chi, neu gyflwr rhywun annwyl, yn gwaethygu?
Dywedwch wrth nyrs neu feddyg ar y ward.
Ydych chi'n dal yn poeni amdanoch chi'ch hun neu anwylyd?
Os oes gennych bryderon o hyd ar ôl siarad â staff y ward, yna mae'n bryd gwneud Galwad am Bryder.
Beth yw Galwad am Bryder?
Mae Galwad am Bryder yn wasanaeth sy'n cefnogi cleifion, eu teuluoedd a'u gofalwyr i alw am gymorth brys os ydyn nhw'n teimlo nad yw eu pryderon wedi cael sylw gan staff ar y ward. Mae ar gael yn ein tri ysbyty acíwt – Treforys, Singleton a Chastell-nedd Port Talbot.
Sut mae cael mynediad at Galwad am Bryder?
Am Ysbyty Treforys ffoniwch 01792 487462.
Am Ysbyty Singleton ffoniwch 01792 487456.
Am Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ffoniwch 01639 507342.
Datganwch yn glir eich bod yn gwneud ‘Galwad am Bryder’. Bydd aelod o'n tîm yn dechrau trwy ofyn rhai cwestiynau i chi dros y ffôn.
Yna mae’n bosib y bydd yn ymweld â chi neu'ch anwylyd ar y ward i gynnal asesiad ac adolygu eich cyflwr/ei gyflwr.
Bydd y tîm yn gweithio'n agos gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i sicrhau eich bod yn cael y gofal gorau posibl.
Pam defnyddio Galwad am Bryder?
Chi sy'n adnabod eich hun a'ch anwyliaid orau.
Os ydych chi'n teimlo bod eich cyflwr corfforol, neu gyflwr anwylyd, yn gwaethygu tra byddwch chi/bydd e yn yr ysbyty, rydyn ni eisiau i chi godi’ch llais.
Mae'r gwasanaeth Galwad am Bryder yn caniatáu ichi uwchgyfeirio eich pryderon am rywun a allai fod yn dirywio'n gorfforol (pan fydd ei gyflwr yn gwaethygu). Mae ar gael i chi os ydych chi'n teimlo nad ydych chi'n teimlo bod staff ar y ward yn gwrando arnoch chi.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.