Beth yw effeithiau strôc?

Maent yn amrywio o ysgafn i ddifrifol a gallant effeithio ar unrhyw ran o'r corff. Mae gwendid cyhyrau a pharlys i lawr ochr y corff ac anawsterau gyda chydbwysedd a llyncu yn gyffredin, yn ogystal â lleferydd aneglur. Ond yr un peth y mae pob goroeswr strôc yn ei grybwyll yw blinder. Mae ganddo effaith enfawr, yn enwedig ar iechyd meddwl.