Neidio i'r prif gynnwy

Gofal deintyddol

Mae'n bwysig brwsio ein dannedd bob dydd i gael gwared ar blac, bacteria a bwyd dros ben, i gadw dannedd a deintgig yn iach a diogelu yn erbyn deintgig sy'n gwaedu, clefyd y deintgig a phydredd dannedd.

Er mwyn sicrhau bod eich plentyn yn lleihau'r risgiau hyn, mae'n bwysig i frwsio eu dannedd ddwywaith y dydd.

Cyflwyno brwsio dannedd i'r drefn ddyddiol:

  • Cyflawnwch frwsio dannedd yr un pryd bob dydd gan ddefnyddio'r un dechneg fel ei bod yn dod yn rhan o'r drefn arferol.
  • Brwsio dannedd yn yr ystafell fwyaf cyfforddus / cyfarwydd i leihau pryder.
  • Gwnewch yn weithgaredd hwyliog , chwaraewch rywfaint o hoff gerddoriaeth neu canwch gân a gofynnwch i'r teulu gymryd rhan.
  • Brwsiwch eich danedd chi ar yr un pryd a mynd drwy bob cam brwsio gyda'ch gilydd. Anogwch nhw i gopïo chi.
  • Ymagwedd 'Dangoswch-wneud' : dweud wrth nhw beth rydych chi'n mynd i'w wneud, dangos iddynt sut i'w wneud, ac yna brwsiwch y dannedd. Gall helpu i  frwsio'ch dannedd chi neu'ch 'tedi' yn gyntaf.
  • Rhowch siart lluniau brwsio dannedd ar wal lle mae brwsio yn digwydd a dilynwch bob cam i helpu i frwsio. Mae ymchwil yn dangos bod lluniau / cymhorthion gweledol yn helpu i wella hylendid y geg.
  • Ceisiwch osgoi dangos eich rhwystredigaeth achos gallai hyn gynyddu pryder. Ceisiwch greu awyrgylch hwyliog.
  • Cyflwyno system wobrwyo / siart wobrwyo. Er enghraifft, gellir rhoi siart ticio / lliwio ar ôl pob sesiwn frwsio a gwobrwyo am wythnos o frwsio llwyddiannus.

Mam in the Madhouse (gwefan allanol, Saesneg yn unig) yn rhoi cyngor hwyliog a defnyddiol ar sut i annog brwsio dannedd gyda'ch plant er mwyn sefydlu drefn ddyddiol bwysig hon y byddant yn parhau i fod yn oedolion.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.