Mae Gwasanaethau Therapi Plant a Phobl Ifanc yn cydnabod pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth â'r plentyn, rhieni a gofalwyr i uchafu gallu corfforol a swyddogaethol plentyn ac i hyrwyddo annibyniaeth a chyfathrebu effeithiol. Rydym wedi ymrwymo i weithio aml-broffesiynol ac aml-asiantaeth.
Yma fe welwch ddolenni i nifer o sefydliadau a allai fod yn ddefnyddiol i chi. Mae dolenni allanol wedi'u cynnwys ar y wefan hon i roi gwybodaeth ychwanegol i ddefnyddwyr.
Cliciwch ar logo'r sefydliad er mwyn cael eich cyfeirio at eu gwefannau swyddogol.
Sefydliadau'r Sector Gwirfoddol
Ymwadiad: Ni all Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe warantu y bydd dolenni o'r fath yn gweithio bob amser, ac nid ydynt yn gwneud unrhyw sylwadau ynghylch ansawdd a chywirdeb y safleoedd sy'n gysylltiedig â hwy. Nid yw BIP yn cymeradwyo unrhyw wefannau allanol ac nid yw'n gyfrifol am eu cynnwys. Sylwir os gwelwch yn dda bod rhai dolenni allanol ddim ar gael yn y Gymraeg.
Gwefan swyddogol Cymdeithas y Ffisiotherapyddion Siartredig Pediatrig. | |
Gweithio i wella dealltwriaeth o ymddygiad heriol, grymuso teuluoedd â gwybodaeth a chymorth, a helpu eraill i ddarparu gwell gwasanaethau a mwy o gyfleoedd. | |
Gwefan swyddogol Coleg y Therapyddion Galwedigaethol. | |
Mae Cerebra yn elusen unigryw a sefydlwyd i helpu i wella bywydau plant â chyflyrau sy'n gysylltiedig â'r ymennydd trwy ymchwil, addysg a chynorthwyo'r plant a'u gofalwyr yn uniongyrchol. | |
Contact a Family yw'r unig elusen genedlaethol sy'n bodoli i gefnogi teuluoedd plant anabl beth bynnag fo'u cyflwr neu anabledd. Gallwch gofrestru ar gyfer eu e-gylchlythyr misol am ddim trwy eu gwefan. | |
Mae Dogs for Good yn elusen sy'n trawsnewid bywyd, gan greu partneriaethau eithriadol rhwng pobl sy'n byw gydag anabledd a chŵn cymorth sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig. | |
Darparu cyngor annibynnol ar fyw'n annibynnol i oedolion a phlant anabl, pobl hŷn, eu gofalwyr a'u teuluoedd. Yn cynnwys cyngor ar geisio arian elusennol. | |
Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Yr elusen fwyaf blaenllaw yn y DU ar gyfer pobl ag awtistiaeth (gan gynnwys syndrom Asperger) a'u teuluoedd. Darparu gwybodaeth, cefnogaeth a gwasanaethau arloesol, ac ymgyrchu dros fyd gwell i bobl ag awtistiaeth. |
|
Pedal Power yw enw gwaith Prosiect Cyfeillion Pedal Power. Rydym yn elusen y mae ei Genhadaeth yn "gwneud beicio yn hygyrch i bawb". | |
Yn yr RDA, mae ein ceffylau a'n merlod yn darparu therapi, cyflawniad a mwynhad i bobl ag anableddau ledled y DU. Mae ein rhwydwaith o 500 o grwpiau gwirfoddol yn trefnu gweithgareddau fel marchogaeth, gyrru cerbydau, botsio a neidio sioeau i hyd at 28,000 o bobl bob blwyddyn. | |
Mae SNAC yn sefydliad sy'n cael ei arwain gan rieni, ac mae'n darparu cyfleusterau chwarae a hamdden i blant ac oedolion ifanc ag anghenion arbennig o bob cwr o ardal De Cymru ar bedwar diwrnod yr wythnos. | |
Addysg i Bawb Ers 1986 mae SNAP Cymru wedi gweithio gyda theuluoedd a gweithwyr proffesiynol mewn ysgolion, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol i helpu i sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc yn cael eu hadnabod, eu hasesu a'u darparu i'w helpu i gyrraedd eu potensial a'u cynnwys yn llawn. | |
Mae Tŷ Hafan yn cynnig cysur, gofal a chymorth i blant a phobl ifanc sy'n byw bywyd byr ac mae'n ymroddedig i wella ansawdd bywyd y teulu cyfan. Mae'r cysur a'r gefnogaeth hon yn ymestyn allan o'r hosbis ac yn cyrraedd i ganol cartref y teulu, ac mae'n rhad ac am ddim i'r teuluoedd yng Nghymru sydd ei angen. | |
Amcangyfrifir bod 70,000 o blant anabl yn y DU sy'n aros am y gadair olwyn gywir a fydd yn golygu y gallant wneud yr holl bethau y mae plant yn hoffi eu gwneud. A dyna ble mae Whizz-Kidz yn dod i mewn. Rydym yn rhoi'r offer, y gefnogaeth a'r sgiliau bywyd i blant anabl sydd eu hangen arnynt i fod yr un fath ag unrhyw blentyn arall. | |
ASD Info Wales, y wefan genedlaethol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASD). Yma fe gewch wybodaeth am Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (gan gynnwys Awtistiaeth a Syndrom Asperger), manylion gwasanaeth, cyfleoedd hyfforddi a diweddariadau ar weithrediad Cynllun Gweithredu Strategol ASD ar gyfer Cymru. | |
Addysg ar-lein am ddim i helpu oedolion i nodi a deall plant a phobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl. | |
Mae'n cynnig e-ddysgu am ddim i unrhyw un sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli gyda phlant a phobl ifanc anabl. Wedi'i gynllunio i wella hyder staff a hyrwyddo cyfathrebu effeithiol, mae Disability Matters yn cefnogi gweithio ar y cyd i sicrhau y gall pobl ifanc anabl gyflawni'r canlyniadau sydd o bwys iddynt. | |
Ei nod yw darparu cefnogaeth emosiynol i rieni a gofalwyr plant ag anghenion arbennig. Mae'r wefan yn cael ei rhedeg gan Joanna Griffin, Seicolegydd Cwnsela Siartredig sydd hefyd â'i phlentyn ag anabledd. | |
CP Sport yw prif sefydliad chwaraeon anabledd cenedlaethol y wlad sy'n cefnogi pobl â pharlys yr ymennydd i gyrraedd eu potensial bywyd trwy chwaraeon a rhoi pobl â pharlys yr ymennydd a'u teuluoedd wrth wraidd popeth a wnawn. | |
Mae WheelPower yn ymroddedig i ddarparu cyfleoedd i bobl anabl ddod o hyd i gamp y maent yn ei mwynhau a darparu cyfleoedd drwy gydol y flwyddyn i gyflwyno pobl i chwaraeon cadair olwyn. | |
Mae Sky Badger yn elusen sy'n dod o hyd i gymorth ac antur i blant anabl a'u teuluoedd ledled y DU. Gwneir hyn trwy adeiladu pontydd rhwng plant anabl a'r elusennau a'r gwasanaethau sydd ar gael i helpu. |
Ymwadiad: Ni all Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe warantu y bydd dolenni o'r fath yn gweithio bob amser, ac nid ydynt yn gwneud unrhyw sylwadau ynghylch ansawdd na chywirdeb y safleoedd sy'n gysylltiedig â hwy. Nid yw BIP yn cymeradwyo unrhyw wefannau allanol ac nid yw'n gyfrifol am eu cynnwys. Sylwir os gwelwch yn dda bod rhai dolenni allanol ddim ar gael yn y Gymraeg.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.