Ers mis Chwefror 2008 mae Adran Offthalmoleg Abertawe wedi bod yn gysylltiedig â Chanolfan Gofal Llygaid Ranbarthol Sheikh Zayed. Y sefydliad hwn yw'r sefydliad mwyaf blaenllaw ar gyfer clefydau'r llygaid, nid yn unig yn Y Gambia ond ar gyfer saith o wledydd tlotaf y byd yng Ngorllewin Affrica fel rhan o'r fenter Gofal Iechyd er Heddwch.
Mae aelodau o adran orthopteg Singleton wedi ymweld â'r Gambia ar sawl achlysur, fel rhan o dimau amlddisgyblaethol sy'n darparu addysg, cyngor a chefnogaeth ar gyfer gwaith clinigol. Mae orthoptwyr wedi hyfforddi nyrsys llygaid ac optometryddion i brofi golwg plant, asesu symudiadau'r llygaid a chanfod tro yn y llygaid. Mae adran orthopteg Singleton hefyd wedi croesawu gweithwyr iechyd llygaid proffesiynol o'r Gambia ar eu hymweliadau ag Abertawe. Roedd yr ymweliad diwethaf â'r Gambia ym mis Tachwedd 2019.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.