Mae gan bawb hawl i fyw heb ofn. Os ydych chi mewn perthynas gamdriniol mae cymorth a chefnogaeth ar gael. Archwiliwch y dolenni isod.
Os ydych chi'n pryderu am eich diogelwch neu'ch lles ac angen cyngor a chymorth, ffoniwch ni ar Linell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800.
Gwybodaeth i bobl sy'n wynebu cam-drin domestig yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot
Ewch yma i gael mynediad at y dudalen we Sorted Supported
Cefnogi menywod gyda neu heb blant sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig.
01792 644683 (24 awr)
I'r rhai sy'n poeni am gam-drin ac sydd angen cyngor a chefnogaeth a gweithwyr proffesiynol sy'n dymuno atgyfeirio.
Ffôn: 01639 894864 e-bost: info@thrivewa.org.uk
Gwaith diogel ac effeithiol gyda throseddwyr, dioddefwyr gwrywaidd, a phobl ifanc sy'n defnyddio trais yn eu perthnasoedd agos.
Ffôn: 0808 802 4040
Cefnogi pobl o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a mathau eraill o gam-drin, gan gynnwys anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod, masnachu pobl a phuteindra.
Ffôn: 0800 7318147 e-bost: info@bawso.org.uk
Cysylltwch â'r Uned Priodasau Gorfodol os ydych chi'n ceisio atal priodas orfodol neu os oes angen help arnoch i adael priodas rydych chi wedi cael eich gorfodi iddi.
Ffoniwch 999 mewn argyfwng
Ffôn: 020 7008 0151 e-bost: fmu@fcdo.gov.uk
Cymorth trais rhywiol i oedolion a phlant. Mae'r gwasanaethau'n cynnwys SARC, canolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol, y gallwch atgyfeirio eich hun ati ac ISVAs, cynghorwyr trais rhywiol annibynnol.
Abertawe: Ffôn: 01792 206885
Merthyr Tudful: Ffôn: 01685 379310
Os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu ar 999
Ffôn: 0800 028 3550 E-bost: help@nspcc.org.uk
Pobl LHDT+ sy'n profi cam-drin a thrais. Mae Galop yn gweithio gyda'r rhai sydd wedi profi cam-drin domestig, trais rhywiol, troseddau casineb, cam-drin rhywiol a'r hyn a elwir yn therapi trosi.
Ffôn: 0800 999 5428 E-bost: help@galop.org.uk
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.