Rhan o'r cylch mislif pan fydd menyw yn gwaedu o'i fagina am ychydig ddyddiau.
I'r rhan fwyaf o fenywod mae hyn yn digwydd tua phob 28 diwrnod, ond mae'n gyffredin i gyfnodau fod yn fwy neu'n llai aml na hyn, yn amrywio o bob 21 diwrnod i bob 35 diwrnod.
Gall eich mislif bara rhwng 2 a 7 diwrnod, ond fel arfer bydd yn para am tua 5 diwrnod. Mae'r gwaedu'n tueddu i fod yn drymaf yn ystod y 2 ddiwrnod cyntaf.
Pan fydd eich mislif ar ei drymaf, bydd y gwaed yn goch. Ar ddiwrnodau ysgafnach, gall fod yn binc neu'n frown.
Byddwch chi'n colli tua 20 i 90ml (tua 1 i 5 llwy fwrdd) o waed yn ystod eich mislif, er bod rhai menywod yn gwaedu'n drymach na hyn.
Ewch yma i wefan y GIG i gael gwybod mwy am gyfnodau. Darllenwch fwy am gyfnodau trwm , poen cyfnodau , cyfnodau afreolaidd a chyfnodau sydd wedi stopio neu wedi'u methu .
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.