Neidio i'r prif gynnwy

Llesiant - cefnogaeth gymunedol leol

Pump menyw yn gwenu

Oeddech chi'n gwybod bod ystod eang o wasanaethau cymunedol ar gael i helpu i gefnogi eich lles? Archwiliwch y dolenni isod i gael gwybod mwy.

Cydlynwyr Ardal Leol

Gall deall y gwahanol fathau o wasanaethau sydd ar gael a pha rai a allai fod yn iawn i chi fod yn ddryslyd weithiau. Cydlynwyr ardal leol yw'r bobl i'ch helpu i ddod o hyd i'ch ffordd.

Ewch yma i wefan Cyngor Abertawe i gael gwybod mwy am gydlynwyr ardal leol Abertawe.

Ewch yma i wefan Castell-nedd Port Talbot i gael gwybod mwy am gydlynwyr ardal leol Castell-nedd Port Talbot

Presgripsiynu Cymdeithasol

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn wasanaeth sy'n cysylltu pobl â ffynonellau anfeddygol i wella eu hiechyd a'u lles. Gallai'r rhain gynnwys gweithgareddau, cyfleoedd, neu gysylltiadau â grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol. Cydlynydd presgripsiynu cymdeithasol yw rhywun sy'n eich cysylltu â gweithgareddau cymdeithasol a chefnogaeth gymunedol i helpu i wella eich iechyd a'ch lles.

Ewch yma i wefan Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe i gael gwybod mwy am bresgripsiynu cymdeithasol yn Abertawe

Ewch yma i wefan Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot i gael gwybod mwy am bresgripsiynu cymdeithasol yng Nghastell-nedd Port Talbot

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.