Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau iechyd rhywiol

Gwasanaethau iechyd rhywiol ym Mae Abertawe, gan gynnwys:

  • cyngor iechyd rhywiol, profi am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs/STDs) a thriniaeth
  • atal cenhedlu, gan gynnwys y bilsen atal cenhedlu frys a choiliau brys. NB - dim ond yn ein prif ganolfannau yn ysbytai Singleton a Chastell-nedd Port Talbot y gellir gosod coiliau brys
  • profion beichiogrwydd
  • Profi HIV
  • mynediad at PrEP (proffylacsis cyn-amlygiad) yn Ysbyty Singleton
  • mynediad at PEP (proffylacsis ôl-amlygiad) yn ysbytai Singleton a Chastell-nedd Port Talbot
  • brechiadau hepatitis B, hepatitis A, HPV a'r frech wen (os bodlonir meini prawf penodol) yn ysbytai Singleton a Chastell-nedd Port Talbot
  • cyngor ac atgyfeiriad erthyliad
  • cymorth i ddioddefwyr ymosodiad rhywiol
  • cwnsela seicorywiol
  • Mae gennym glinigau nawr yng Nghanolfan Iechyd Heol Dyfed a Chanolfan Iechyd Pontardawe, sydd trwy apwyntiad yn unig.

Dim ond trwy apwyntiad y mae mynediad i glinigau iechyd rhywiol bellach. Ffôn: 0300 5550279 - Noder, bydd y llinell ar gau rhwng 12.30 a 13.00 bob dydd ar gyfer cinio, a thrwy'r dydd ar wyliau banc. Fel arall, gallwch gael mynediad i'r clinig iechyd rhywiol trwy ddilyn y ddolen hon i ffurflen ar-lein.

Gweler y ddolen isod am fanylion llawn ein gwasanaeth iechyd rhywiol.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.