Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Therapi Iaith a Lleferydd - Plant a Phobl Ifanc

Mae

Pwy ydym ni

Mae gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd Plant yn gweithio gyda phlant, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill i gefnogi ystod eang o anghenion cyfathrebu mewn plant a phobl ifanc. Mae gennym hefyd Therapyddion Iaith a Lleferydd arbenigol sy'n gweithio gyda Dysffagia - gan helpu babanod a phlant sydd ag anawsterau bwyta, yfed a llyncu.

Beth rydyn ni'n ei wneud

Gweithio gyda'r plentyn/person ifanc a'r rhai sy'n arwyddocaol yn eu bywydau:

  • Rhoi gwybodaeth a fydd yn eich cefnogi i helpu lleferydd, iaith a chyfathrebu eich plentyn/person ifanc.
  • Mynediad at wahanol lefelau o wasanaeth e.e. gwybodaeth, sicrwydd, cyngor, cyfeirio, ymgynghori a lle bo angen asesiad a thriniaeth.
  • Ymyriadau effeithiol yn seiliedig ar y sail dystiolaeth ddiweddaraf.
  • Rhesymau clir dros ein penderfyniadau.
  • Gofal sy'n canolbwyntio ar nodau.

Mae Cynorthwywyr Therapi Iaith a Lleferydd (SALTA) yn gweithredu mewn rôl gefnogol a than gyfarwyddyd SLT cymwys ac maent yn rhan hanfodol o'n tîm.

Gall y cynorthwyydd Therapi Iaith a Lleferydd ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau, gan gynnwys:

  • cefnogi cleientiaid i ddatblygu sgiliau cyfathrebu
  • creu deunyddiau therapiwtig
  • gweithio gyda chleientiaid ar sail un i un, gyda monitro rheolaidd ac addasu rhaglen therapi gan SLT
  • cefnogi a rhedeg gweithgareddau therapi grŵp

Bydd y Therapyddion Iaith a Lleferydd a'r cynorthwywyr yn eich helpu gyda phethau y gallwch eu gwneud i helpu lleferydd, iaith a chyfathrebu a/neu lyncu eich plentyn neu berson ifanc a rhoi strategaethau i chi weithio arnynt gyda'ch gilydd.

Gallwn ni helpu Plant a Phobl Ifanc a allai fod â:

  • Anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y blynyddoedd cynnar (0-7 oed)
  • Anhwylderau iaith datblygiadol
  • Anawsterau penodol wrth gynhyrchu synau
  • Byddardod
  • Gwefus a thaflod hollt
  • Atal dweud
  • Anhwylderau niwroddatblygiadol/anawsterau cyfathrebu cymdeithasol mewn cysylltiad â gweithwyr proffesiynol eraill.
  • Llais cryg
  • Anawsterau bwyta, yfed a/neu lyncu
  • Pobl ifanc sydd yn y System Cyfiawnder Ieuenctid

Ble rydym yn gweithio:

Rydym yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys clinigau cymunedol, lleoliadau cymunedol, ysgolion, meithrinfa/lleoliad gofal plant y plentyn, ac yn y cartref. Mae gennym hefyd Therapydd Iaith a Lleferydd sy'n gweithio gyda babanod newydd-anedig yn Ysbyty Singleton i gefnogi'r babanod hynny sydd ag anawsterau bwydo a llyncu cynnar. Yn ogystal, mae tîm o Therapyddion/Cynorthwywyr Iaith a Lleferydd yn gweithio yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac o fewn Dechrau'n Deg fel y gallwn weithio mewn ffordd ataliol ac atal unrhyw anghenion rhag gwaethygu.

Gweithio mewn partneriaeth:

Elfen bwysig o'n rôl yw annog a hyrwyddo datblygiad sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu yn ogystal â chefnogaeth i atal anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu rhag digwydd mewn plant. Rydym yn gweithio gyda staff ysgolion, ymwelwyr iechyd, nyrsys, meddygon teulu a sefydliadau gwirfoddol. Gallwn ddarparu hyfforddiant i helpu eraill i gefnogi pobl sydd ag anawsterau cyfathrebu a llyncu. Rydym hefyd yn gweithio gyda'r Awdurdodau Lleol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot i ddarparu gofal cydgysylltiedig i blant oedran ysgol.

Am ffynonellau cymorth a gwybodaeth bellach i chi, eich teulu a gweithwyr proffesiynol ewch i'r adran taflenni/hyfforddiant/dolenni defnyddiol ar y wefan hon.

Manylion Cyswllt

E-bost: SBU.ChildrensSpeechTherapy@wales.nhs.uk .

Ffôn: 01792 517863 neu 01639 862718

Mae'r blwch derbyn e-bost a'r llinell ffôn ar agor bum niwrnod yr wythnos yn ystod oriau swyddfa arferol gyda gwasanaeth neges llais 24 awr.

Bydd unrhyw ohebiaeth gyda'r adran y tu allan i'r oriau hyn yn cael ei hateb cyn gynted â phosibl.

Sut i gael mynediad at y gwasanaethau hyn

Bydd oedran y plentyn neu'r person ifanc a'r hyn y mae angen cymorth arnynt ag ef yn llywio sut y gwneir atgyfeiriad at Therapi Iaith a Lleferydd.

 

 

Gwybodaeth Ychwanegol

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.