Neidio i'r prif gynnwy

Porth Cleifion Bae Abertawe

Ydych chi dros 16 oed ac ar hyn o bryd yn derbyn, neu ar fin derbyn gofal cleifion allanol?

Ydych chi eisiau mynediad at eich gwybodaeth iechyd ar flaenau eich bysedd? Rheoli eich gofal iechyd o gysur eich cartref? Cael ystod o ganlyniadau profion gwaed a anfonir yn uniongyrchol at eich ffôn clyfar, gliniadur, tabled neu gyfrifiadur personol eich hun, ynghyd â'ch llythyrau apwyntiad a mwy? Mae Porth Cleifion Bae Abertawe (sy'n cael ei bweru gan Patients Know Best) yn wasanaeth diogel ar-lein sy'n rhoi mynediad i chi i'ch gwybodaeth iechyd, ac mae'n gyfleus - gallwch gael mynediad iddi unrhyw bryd ac yn unrhyw le.

Gallwch hefyd rannu peth neu'r cyfan o'ch gwybodaeth iechyd gydag aelodau o'r teulu, gofalwyr neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sydd angen ei weld.

Ar ôl i chi gofrestru ar Borth Cleifion Bae Abertawe bydd gennych ystod eang o wybodaeth glinigol ac adnoddau i gefnogi eich iechyd a'ch lles - ar gael yn eich poced. Darganfyddwch fwy isod.

 

 

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen Polisi Preifatrwydd Porth Cleifion Bae Abertawe.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.