Mae Adam yn wyddonydd clinigol dan hyfforddiant yn y Grŵp Ffiseg MRI. Mae'n ymgymryd â'r rhaglen hyfforddi gwyddonydd, gan arbenigo mewn delweddu gydag ymbelydredd nad yw'n ïoneiddio.
Cwblhaodd Adam ei radd BSc mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Warwick, cyn dilyn MSc mewn ffiseg arwyneb lled-ddargludyddion. Symudodd Adam i Abertawe yn 2023 i ymuno â Thîm Ffiseg MRI.
Mae ei brif feysydd diddordeb yn cynnwys datblygu protocolau mewn MRI, gyda ffocws penodol ar gymhwyso MRI mewn triniaeth radiotherapi ar gyfer gwahanol safleoedd anatomegol.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.