Mae dietegwyr yn aelodau o'r tîm diabetes oherwydd bod deall sut mae bwyd yn effeithio ar lefelau glwcos yn allweddol i reoli diabetes.
Rydym yn gallu cynghori ar ddewisiadau bwyd addas ac egluro sut mae carbohydrad yn benodol yn effeithio ar lefelau glwcos.
Gallwn hefyd ddarparu gwybodaeth ar sut i wella a helpu i gadw lefelau glwcos yn y gwaed yn sefydlog gyda dognau addas o brydau bwyd a byrbrydau.
Rydym yn cynnig addysg grŵp neu apwyntiadau unigol wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu alwad fideo.
Mae'r cyrsiau hyn ar gael i'r rhai sydd â diabetes Math 1:
Mae'r cyrsiau hyn ar gael i'r rhai sydd â diabetes Math 2. Gallwch gyfeirio eich hun drwy gysylltu â 01639 862928:
Mae gwybodaeth am ddeiet ar gyfer pobl ddiabetig Math 1 ar gael gan Diabetes UK.
Mae gwybodaeth am ddeiet ar gyfer pobl ddiabetig Math 2 ar gael gan Diabetes UK.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.