Os oes gennych apwyntiad claf allanol ac eisiau gwneud newidiadau, cysylltwch â 01792 532497 a dewiswch yr opsiwn ar gyfer yr ysbyty lle rydych chi'n derbyn eich gofal.
Gallwch hefyd anfon e-bost at:
Noder nad ydym yn cynnig gwasanaeth galw heibio
Gwnewch bob ymdrech i fynychu eich apwyntiad, mae methu apwyntiadau yn costio arian i'r GIG ac yn ychwanegu at restrau aros. Darllenwch eich llythyr apwyntiad gan y gallai eich apwyntiad fod yn apwyntiad dros y ffôn ac nid o reidrwydd wyneb yn wyneb.
Noder, efallai na fyddwch yn gweld y person a enwir ar eich llythyr apwyntiad ac efallai y byddwch yn cael eich gweld gan aelod arall o'r tîm.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.