Yn Ysbyty Treforys mae gennym ni wasanaethau cardioleg a llawdriniaeth gardiothorasig.
Os cewch eich cyfeirio at gardioleg byddwch yn cael eich asesu a'ch trin yn feddygol. Efallai y byddwch yn cael triniaeth fel cathetriad cardiaidd neu angioplasti coronaidd, sy'n lledu rhydwelïau coronaidd sydd wedi'u rhwystro neu wedi culhau.
Mae ein hadran llawfeddygaeth cardiothorasig yn perfformio llawdriniaeth ar y galon, yr ysgyfaint a'r frest gan gynnwys llawdriniaeth ddargyfeiriol a llawdriniaeth agored ar y galon. Gellir cynllunio hyn ymlaen llaw neu ei wneud mewn argyfwng.
Mae clinigau cymunedol newydd hefyd wedi'u lansio i helpu i wneud diagnosis a rheoli pobl sydd â Ffibriliad Atrïaidd, y math mwyaf cyffredin o rythym calon annormal.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.