Neidio i'r prif gynnwy

Data Cleifion

Delwedd o logos BIP Bae Abertawe.

Hysbysiad Preifatrwydd

Gwybodaeth i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth am sut mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn defnyddio gwybodaeth bersonol

Am wybodaeth preifatrwydd yn benodol ar gyfer plant yn y Gymraeg a'r Saesneg, dilynwch y dolenni isod: 

I wylio Hysbysiad Preifatrwydd Plant BIP Bae Abertawe yn Gymraeg, dilynwch y ddolen hon i YouTube.

I wylio Hysbysiad Preifatrwydd Plant BIP Bae Abertawe yn Saesneg, dilynwch y ddolen hon i YouTube.

Nod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yw bod yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â'r ffordd rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi gwybod i chi sut rydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol. Mae'r Bwrdd Iechyd yn defnyddio dull haenog o ddarparu gwybodaeth preifatrwydd ac efallai y byddwch yn cael gwybodaeth breifatrwydd ychwanegol, fanylach, pan fyddwch yn ymgysylltu â gwasanaethau penodol.

Manylion cyswllt y Bwrdd Iechyd

Mae ein Pencadlys wedi’i leoli yn:

Pencadlys Bae Abertawe

1 Porthfa Talbot,

Parc Ynni Baglan,

Baglan,

Port Talbot,

SA12 7BR

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch y ffordd y mae'r Bwrdd Iechyd wedi trin eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data yn y cyfeiriad uchod, neu drwy e-bost fel yr amlinellir isod:

E-bost: BIPBA.SwyddogDiogeluData@wales.nhs.uk

Os hoffech wneud cais mewn perthynas â'ch cofnod iechyd (gweler isod eich hawliau mewn perthynas â'ch gwybodaeth bersonol) gallwch gysylltu â'r Tîm Mynediad at Gofnodion Iechyd drwy e-bost fel yr amlinellir isod:

E-bost: accesstorecords@wales.nhs.uk

Fel awdurdod cyhoeddus, rhaid i ni gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth berthnasol sy'n ymwneud â thrin gwybodaeth. Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yw'r awdurdod goruchwylio yn y Deyrnas Unedig a sefydlwyd i sicrhau bod hawliau gwybodaeth yn cael eu cynnal. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y ddolen ganlynol:

 Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am sut y defnyddir eich gwybodaeth trwy ddilyn y ddolen hon i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Pam rydym yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth bersonol?

Gelwir cael, cofnodi, dal a delio â gwybodaeth bersonol yn 'brosesu'. Er mwyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe gyflawni ei swyddogaethau swyddogol fel corff y GIG, rhaid i ni brosesu gwybodaeth bersonol a gwybodaeth categori arbennig amdanoch chi. Mae gennym hawl gyfreithiol i wneud hyn o dan Erthygl 6(1)(e), ac Erthyglau 9(2)(h) a 9(2)(i) o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK-GDPR).

Bydd achlysuron pan fyddwn yn dibynnu ar resymau cyfreithlon eraill. Er enghraifft, lle mae'n ofynnol i ni brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith, neu lle rydych chi wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Byddwn bob amser yn sicrhau bod gennym reswm cyfreithlon i brosesu eich gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Eich Cofnod Iechyd

Fel sefydliad GIG, y prif reswm pam rydyn ni'n casglu ac yn prosesu eich gwybodaeth bersonol yw darparu gwasanaethau gofal iechyd. Gall y rhain gynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • Rhoi diagnosis meddygol;
  • Darparu gwasanaethau a thriniaeth iechyd neu ofal cymdeithasol;
  • Darparu cyngor a chymorth iechyd a lles;
  • Cefnogi rheolaeth gwasanaethau a systemau iechyd neu ofal cymdeithasol;
  • At ddibenion iechyd y cyhoedd.

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chasglu o nifer o ffynonellau. Er enghraifft, efallai y byddwch yn darparu gwybodaeth yn uniongyrchol i ni, efallai y bydd yn cael ei darparu gan aelodau o'ch teulu, neu ei chynnwys mewn atgyfeiriadau a dderbynnir gan eich meddyg teulu neu sefydliadau eraill.

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chofnodi yn eich cofnod iechyd, cofnodion atodol, ac o fewn systemau a chymwysiadau electronig y Bwrdd Iechyd. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth sydd gennym i gysylltu â chi ynglŷn ag apwyntiadau a chyfathrebiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd. Gall hyn gynnwys drwy lythyr, ffôn a neges destun. Byddwn yn recordio galwadau ffôn o bryd i'w gilydd at ddibenion hyfforddiant a darparu gwasanaethau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch manylion cyswllt er mwyn sicrhau bod ein cofnodion yn parhau i fod yn gywir ac yn gyfredol.

Fel preswylydd Cymru, os byddwch chi byth yn derbyn triniaeth gan ddarparwr gofal y GIG yn Lloegr, bydd y wybodaeth sydd ganddyn nhw amdanoch chi yn cael ei rhannu'n ôl i GIG Cymru er mwyn diweddaru eich Cofnod Iechyd yn lleol. Bydd y Bwrdd Iechyd yn defnyddio'r wybodaeth honno i gofnodi a dilysu pa ofal a ddarparwyd i chi.

Am ba hyd y byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol?

Ni fyddwn yn cadw gwybodaeth bersonol am gyfnod hirach nag sy'n ofynnol. Bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei gwneud yn ddi-enw pan nad oes ei hangen mwyach mewn fformat adnabyddadwy. Byddwn yn storio gwybodaeth bersonol yn unol â chanllawiau cadw cyfredol GIG Cymru.

Rhannu eich gwybodaeth bersonol

Mae rhai sefyllfaoedd a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i ni rannu'r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi gydag unigolion a/neu sefydliadau eraill. Byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol yn rheolaidd rhwng adrannau o fewn y Bwrdd Iechyd er mwyn sicrhau ein bod yn darparu'r gofal gorau posibl i chi.

Mae yna adegau pan allai eich gwybodaeth bersonol gael ei rhannu â darparwyr gofal iechyd a chymdeithasol eraill, yn enwedig lle mae eich gofal yn cael ei ddarparu gan Dîm Amlddisgyblaethol (MDT). Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys gwasanaethau Iechyd Meddwl neu wasanaethau Cymunedol lle rydym yn partneru â darparwyr annibynnol neu Wasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol.

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda'ch Cwmni Yswiriant Iechyd enwebedig os oes gofyniad i chi dalu am elfennau o'ch gofal iechyd.

Byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol pan fydd rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i wneud hynny. Bydd hyn yn cynnwys yr Heddlu, Awdurdodau Lleol, Adrannau'r Llywodraeth, Cyrff Cyhoeddus neu Reoleiddiol eraill, Gweithwyr Proffesiynol Cyfreithiol, a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Myfyrwyr a Hyfforddeion

Mae'n wirioneddol bwysig bod GIG Cymru yn gallu hyfforddi gweithwyr meddygol, nyrsio a gweithwyr gofal iechyd newydd er mwyn sicrhau bod digon o staff i ddarparu gwasanaethau hanfodol, ac ar gyfer cynllunio strategol yn y dyfodol. O fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, bydd gan fyfyrwyr meddygol, nyrsio a gofal iechyd eraill fynediad at wybodaeth am gleifion gan fod hyn yn rhan annatod o'u lleoliadau hyfforddi / dyletswyddau dan oruchwyliaeth. Efallai y bydd achosion hefyd lle bydd gan rai prentisiaid gofal iechyd neu hyfforddeion galwedigaethol fynediad at wybodaeth am gleifion fel rhan o'u lleoliadau.

Ymchwil Iechyd a Gofal a Gwerthuso Gwasanaethau

Disgwylir i bob sefydliad GIG gymryd rhan a chefnogi ymchwil iechyd a gofal. Rydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol i gynnal ymchwil iechyd a gofal er mwyn gwella gofal iechyd a'n gwasanaethau. Bydd y math o wybodaeth bersonol a gasglwn yn benodol i natur a gofynion y prosiectau ymchwil yr ydym yn eu cynnal a bydd yn cael ei gwneud yn ddienw lle bo angen. Fodd bynnag, byddwn yn sicrhau bod y wybodaeth a ddefnyddiwn yn berthnasol i amcanion y prosiectau ymchwil hyn. Ein nod yw cynnal ymchwil Iechyd a Gofal a Gwerthuso Gwasanaethau i'r safonau uchaf o ran uniondeb ymchwil. Mae ein hymchwil wedi'i seilio ar bolisïau a gweithdrefnau sy'n sicrhau ein bod yn cydymffurfio â rheoliadau a deddfwriaeth sy'n llywodraethu cynnal ymchwil; mae hyn yn cynnwys deddfwriaeth diogelu gwybodaeth.

Systemau Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) a Gwyliadwriaeth

Gellir defnyddio system deledu cylch cyfyng a systemau gwyliadwriaeth eraill (megis fideo a wisgir ar y corff) i fonitro amrywiaeth eang o leoliadau, a chynorthwyo i atal troseddau a digwyddiadau eraill. Mae teledu cylch cyfyng wedi dod yn rhan o fywyd modern ac mae'n nodwedd ddisgwyliedig mewn adeiladau a mannau cyhoeddus. Prif bwrpas teledu cylch cyfyng ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yw amddiffyn cleifion, ymwelwyr, staff ac eiddo'r Bwrdd Iechyd, trwy ddarparu ataliad gweladwy ac amgylchedd diogel. Mae safleoedd y Bwrdd Iechyd wedi'u dosbarthu fel mannau cyhoeddus. Felly, gall cleifion, staff ac aelodau’r cyhoedd ddisgwyl bod yn destun gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng tra byddant ar ein safle, ond maent hefyd yn briodol i ddisgwyl i’r fath wyliadwriaeth fod yn angenrheidiol ac yn gymesur, gyda mesurau diogelwch priodol ar waith. Bydd arwyddion gweladwy bob amser yn cael eu harddangos lle mae gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng yn cael ei chynnal yn rheolaidd. 

Eich hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol

O dan ddeddfwriaeth diogelu gwybodaeth, mae gennych hawliau mewn perthynas â'ch gwybodaeth bersonol y mae angen i ni eich hysbysu amdanynt. Bydd pa rai o'r hawliau hyn sydd ar gael i chi yn dibynnu ar beth yw ein rheswm cyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth:

  • Eich hawl i gael mynediad;
  • Eich hawl i gywiriad;
  • Eich hawl i ddileu;
  • Eich hawl i gyfyngu ar brosesu;
  • Eich hawl i wrthwynebu prosesu;
  • Eich hawl i gludadwyedd gwybodaeth.

Nid yw'n ofynnol i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau. Fel arfer mae gennym fis i ymateb i chi.

Mae gennych hefyd yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Fodd bynnag, gofynnwn i chi godi unrhyw bryderon ynghylch diogelu data gyda'r Swyddog Diogelu Data (manylion uchod) yn y lle cyntaf a fydd yn ceisio hwyluso datrysiad. Os ydych chi'n dal yn anfodlon, gellir cysylltu â'r ICO gan ddefnyddio'r manylion a ddarperir isod:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill

Ffordd Churchill

Caerdydd

CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421

E-bost: cymru@ico.org.uk  

Ar-lein/sgwrs fyw: Gallwch sgwrsio byw trwy ddilyn y ddolen hon i'r dudalen Gwybodaeth Bersonol - Pryderon ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Llinell Gymorth: 0303 123 1113

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.