Fy enw i yw Jess ac rwy’n seicolegydd clinigol yn gweithio yng Ngwasanaeth Rheoli Pwysau Plant a Phobl Ifanc y Goleudy, a ddechreuodd yn 2022.
Rwy’n cynnig cymorth i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd i’w helpu i ddeall ac ymdopi ag unrhyw bryderon neu broblemau sy’n ymwneud â phwysau, bwyta a hwyliau.
Rwy’n gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol eraill yng ngwasanaeth y Goleudy i wneud yn siŵr bod teuluoedd yn cael y cymorth gorau sydd ar gael.