Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cynnwys dwy brif ardal: Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Fel rhan o'r gwasanaeth pediatrig cymunedol arbenigol, mae gan bob ardal ei chanolfan blant bwrpasol ei hun sydd wedi'i lleoli ar safle eu prif ysbyty lleol.
Sefydlwyd y canolfannau plant i ddarparu gofod arbenigol, pwrpasol i blant a'u teuluoedd dderbyn y gofal arbenigol ac unigol sydd ei angen arnynt.
Gyda chysylltiadau agos ag addysg a gwasanaethau cymdeithasol, maen nhw'n yn darparu gwasanaeth cymunedol cyflawn i blant 0-19 oed ag anghenion ychwanegol a'u teuluoedd.
Mae cael canolfannau plant pwrpasol hefyd yn golygu y gellir cydleoli gweithwyr proffesiynol o ystod o ddisgyblaethau clinigol a therapiwtig gwahanol i hyrwyddo gweithio amlddisgyblaethol agosach.
Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod plant a’u teuluoedd yn cael gofal cyfannol rhagorol gan dîm o weithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol a’u bod yn cael eu gweld gan y gweithiwr proffesiynol mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion.
Hafan y Môr (Abertawe)
Mae Canolfan Blant Hafan y Môr yn ganolfan newydd ei hadnewyddu ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol wedi’i lleoli ar safle Ysbyty Singleton. Mae ganddi ei mynedfa ddiogel ddynodedig ei hun a maes parcio a reolir gan rwystrau. Gellir cael mynediad iddi hefyd trwy brif adeilad yr ysbyty.
Mae gennym nyrsys, therapyddion galwedigaethol, pediatregwyr, ffisiotherapyddion a therapyddion iaith a lleferydd yn gweithio yma. Mae’r ganolfan hefyd yn darparu canolfan ar gyfer:
Clinigau amlddisgyblaethol
Clinigau orthopedig
Clinigau orthoteg
Clinigau sblintio breichiau
Yn ogystal, mae Hafan y Môr hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer nifer o weithgareddau codi arian a chefnogaeth i blant a phobl ifanc ag anableddau yn ystod penwythnosau gan y Llyfrgell Cyfleoedd Chwarae a Hamdden (Llyfrgell Deganau) a Therapi i Blant Abertawe – Grŵp Cefnogi Therapi Plant Abertawe.
Hafan y Mor,
Canolfan y Plant,
Bloc Ward y Gorllewin,
Lefel 2,
Lôn Sgeti,
Sgeti,
Abertawe,
SA2 8QA.
Ffôn: 01792 200400
Canolfan Plant Castell-nedd Port Talbot
Mae Canolfan Plant Castell-nedd Port Talbot wedi'i lleoli ar safle Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ac mae ar wahân i brif adeilad yr ysbyty a'r Uned Asesu Plant . Mae maes parcio dynodedig am ddim i ddefnyddwyr y ganolfan blant. Mae'n bartneriaeth lwyddiannus rhwng y GIG a'r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae’r gwasanaethau yma’n cynnwys Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed, pediatregwyr, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, therapyddion iaith a lleferydd a gwasanaeth anhwylderau niwroddatblygiadol. Mae’r ganolfan hefyd yn darparu canolfan ar gyfer:
Clinigau amlddisgyblaethol
Clinigau orthopedig
Clinigau orthotig
Ymwelwyr iechyd anabledd
Clinigau sblintio breichiau
Cylch Chwarae Building Blocks
Ysbyty Castell-nedd Port Talbot,
Canolfan Plant.
Ffordd Baglan,
Port Talbot,
SA12 7BX.