Mamau, tadau a gofalwyr - Cofiwch mai eich meddyg teulu yw eich prif fan galw am am help os bydd eich plentyn yn mynd yn sâl mewn unrhyw ffordd. Gallant gyfeirio eich plentyn i'n gwasanaethau arbenigol os oes angen.
Ewch i dudalen hon i gael cyngor ar gael gofal brys i chi'ch hun neu i rywun annwyl.
Mae plant sydd â phroblemau calon wedi'u cadarnhau neu eu hamau yn cael eu gweld yn ysbytai Treforys a Singleton.
Mae derbyniadau brys yn cael eu gweld yn Ysbyty Treforys ac mae atgyfeiriadau cleifion allanol yn cael eu gweld yn Ysbyty Singleton.
Mae tri meddyg ymgynghorolyn yr adran sydd ag arbenigedd mewn problemau calon plant.
Mae pob un o'r tri meddyg ymgynghorol yn gweithio yn yr uned gofal dwys newyddenedigol yn Singleton ac wedi cael eu hyfforddi mewn cardioleg plant ac yn arbennig yn gallu cynnal sganiau uwchsain o galonnau plant.
Mae gennym hefyd dri ffisiolegydd arbenigol sy'n helpu gyda'r profion arbenigol sydd eu hangen yn aml i ymchwilio i blant yr amheuir bod ganddyn nhw broblemau'r galon.
Mae plant sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty gydag amheuaeth o broblemau'r galon yn cael eu derbyn i ward Oakwood yn Ysbyty Treforys.
Mae gennym hefyd arbenigwyr gwadd o Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd sy'n dod i wneud clinig i blant â phroblemau'r galon yn Abertawe ac rydym yn cydweithio'n agos â'r arbenigwyr hyn yng Nghaerdydd.
Mae plant sydd angen llawdriniaeth ar y galon fel arfer yn cael eu hatgyfeirio i Ysbyty Plant Bryste ar gyfer eu llawdriniaeth.
Rydym hefyd yn rhan o Rwydwaith Clefyd Cynhenid y Galon Cymru a Rhwydwaith Clefyd Cynhenid y Galon De Cymru a De Orllewin Lloegr.
Cwrdd â'r tîm
Dr Maha Mansour - Meddyg Ymgynghorol
Dr Sree Nittur - Meddyg Ymgynghorol
Dr Geraint Morris - Meddyg Ymgynghorol
Sheryl Morris - Ffisiolegydd Cardiaidd
Carys Williams - Ffisiolegydd Cardiaidd
Marian Thomas - Ffisiolegydd Cardiaidd